Mae’r cogydd Chris Roberts dweud ei fod yn edrych ymlaen at hybu cig Cymru yn Qatar yr wythnos nesaf.

Bydd Hybu Cig Cymru’n cymryd rhan mewn digwyddiad masnach yno, a bydd Chris Roberts yn ymweld efo nhw er mwyn arddangos Cig Oen Cymru.

Yn ôl y cogydd o Gaernarfon, fydd yn gwneud barbeciw ym mhreswylfa Llysgennad Prydain yn Qatar, mae’n gyfle i hyrwyddo hunaniaeth bwyd Cymru y tu allan i’r wlad.

Bydd arddangosfa o gynnyrch yno, bydd prynwyr lleol yn medru cwrdd â chynrychiolwyr o’r sector amaeth a bwyd yng Nghymru, a chig oen Cymru fydd canolbwynt pryd o fwyd arbennig gan Chris Roberts.

Mae’r digwyddiad yn Qatar yr wythnos nesaf yn rhan o raglen i hyrwyddo Hybu Cig Cymru yn y Dwyrain Canol, ac mae cyfran fawr o’r gwaith yn cael ei wneud ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

“Dw i erioed wedi bod yn Qatar o’r blaen, a dw i’n gutted fy mod i’n mynd i Qatar fis cyn mae’r World Cup yn cychwyn a fy mod i ddim yna’r un pryd!” meddai Chris Roberts wrth golwg360.

“Ond fe wnes i wneud rhywbeth tebyg yn Dubai ym mis Mawrth drwy Lywodraeth Cymru a Hybu Cig Cymru, fe wnes i goginio barbeciw yn fan honno ac mae hwn yn rywbeth tebyg.

“Dw i’n defnyddio cig oen Cymreig, ŵyn mynydd, ac yn gwneud pob dim ar y barbeciw.

“Dw i newydd fod yn gwneud pop-ups yn Efrog Newydd a ffilmio hwnna, fydd yna gyfres newydd ar S4C ym mis Rhagfyr.

“Yn Efrog Newydd, doedd o ddim am goginio cynnyrch Cymru. Pan dw i’n mynd ffwrdd i goginio, dw i’n licio coginio efo’r cynnyrch lleol – dydy o ddim bob tro am ddefnyddio cig oen Cymreig ym mhob man rownd y byd!

“Yr un peth yn Qatar, dim bod yna lwyth o gynnyrch lleol yn tyfu yno, ond fydda i’n defnyddio gymaint o gynnyrch lleol â dw i’n gallu pan fydda i yno hefyd.”

Cig, tân a mwg

Mae Chris Roberts yn edrych ymlaen at gael coginio yn rhywle gwahanol eto, a chynnig rhywbeth gwahanol i’r “fine dining” sy’n arferol mewn digwyddiadau o’r fath.

“Cig, tân a mwg – dyna ydy ethos fi efo’r tân, dod â phobol at ei gilydd,” meddai.

“Gawn ni weld sut eith hi. Mae gen i ddau kilo o gig oen wedi cael ei yrru yno, iogwrt Cymreig, llwyth o gig oen o Stad Rhug [yng Nghorwen].

“Fydd hi’n weird bod yn Qatar yn coginio efo’r un pethau dw i’n eu coginio yn fan yma.

“Mae yna lobsters o Gymru’n cael eu gyrru yna’n fyw hefyd!”

Hyrwyddo yn y Dwyrain Canol yn ‘flaenoriaeth’

Mae cig oen Cymru’n cael ei werthu yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ers tua 15 mlynedd, ond dim ond ers pum mlynedd mae gan Gymru hawl i allforio i wledydd eraill yn y rhanbarth, fel Qatar a Kuwait.

Yn ôl Hybu Cig Cymru, mae datblygu marchnad y Dwyrain Canol yn flaenoriaeth, fel rhanbarth lle mae pobol yn bwyta llawer o gig oen, yn gorfod mewnforio llawer o’u cig, a lle mae twristiaeth yn bwysig.

Hyd yn hyn yn 2022, mae’r allforion o Gymru i Qatar wedi cynyddu 350% o gymharu â’r un cyfnod yn 2021.

Mae nawr yn “gyfle euraidd i gymryd mantais ar bresenoldeb tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd i hybu brandiau nodedig Cymreig” hefyd, meddai Pennaeth y Gadwyn Gyflenwi yn Hybu Cig Cymru.

“Mae’r Dwyrain Canol yn farchnad o flaenoriaeth uchel i Gig Oen Cymru, ochr yn ochr â chynnal ein marchnadoedd gwerthfawr ym Mhrydain ac Ewrop, a datblygu masnach gydag Asia a Gogledd America,” eglura Jon Parker.

“Mae cig oen yn fwyd poblogaidd yno, ac oherwydd yr hinsawdd mae’n rhaid i wledydd y Dwyrain Canol fewnforio dipyn o’u bwyd ffres.

“Mae’r sector arlwyo a lletygarwch yn cynnig marchnad bwysig ar gyfer cig o safon uchel, sy’n meddu ar stori gref o ran cynaliadwyedd.

“Bu cyfnod Covid yn her wrth i ni geisio datblygu marchnadoedd newydd fel Qatar, ond nawr mae economi’r rhanbarth yn ffynnu eto.

“Mae Cig Oen Cymru eisoes wedi bod ar gael mewn nifer o siopau a gan gyflenwyr i’r sector lletygarwch yn Qatar.”

Cig Oen Cymru ar werth yn archfarchnad Carrefour yn Qatar

‘Pwysig â’r Bunt yn isel’

Mae’r farchnad dramor yn arbennig o bwysig â’r Bunt yn isel a chwyddiant ar gynnydd, meddai Jon Parker.

“Ein nod yw datblygu’r fasnach yma a sefydlu’r brand Cymreig yn Qatar ac ar hyd y rhanbarth.

“Mae Hybu Cig Cymru yn gweithio gydag asiantaeth arbenigol yn y Dwyrain Canol, a gyda Llywodraeth Cymru, ar gyfres o ddigwyddiadau a mentrau hyrwyddo, a fydd o gymorth i gynyddu gwerthiant.

“Bydd hi’n bwysig i yn y dyfodol i ddatblygu ystod eang o farchnadoedd, er mwyn sicrhau fod ffermwyr a phroseswyr ddim yn or-ddibynnol ar un cwsmer.

“Mae rhwng 30 a 40% o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael ei allforio dramor mewn masnach sydd werth £200m y flwyddyn.

“Ar gyfnod lle mae cyfraddau cyfnewid y Bunt yn isel, a chwyddiant yn cael effaith ar gwsmeriaid ym Mhrydain, mae ein marchnadoedd allforio yn fwy pwysig nag erioed.” 

‘Hyrwyddo cyn Cwpan y Byd’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y digwyddiad yn cael ei gynnal i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i brynwyr allweddol yn Qatar cyn Cwpan y Byd.

“Bydd yn cael ei gynnal gan y Llysgennad ac yn cynnwys dirprwyaeth o fusnesau bwyd a diod Gymreig fydd yn gallu cyflwyno eu cynnyrch.”

Chris Roberts

“Dw i’n coelio dylsai pobol Cymru ddim jyst bwyta bwyd Cymru, ond dathlu fo”

Alun Rhys Chivers

Chris Roberts yn siarad â golwg360 ar ôl ennill dwy wobr BAFTA Cymru ddechrau’r wythnos