Cafodd Gŵyl Bwyd a Diod Llanelli ei chynnal ddydd Sadwrn (Hydref 15), gyda stondinau a gweithgareddau mewn sawl lleoliad yn y dref.

Mae’n cael ei threfnu gan Ymlaen Llanelli mewn cydweithrediad â BID (Ardaloedd Gwella Busnes) y dref, gyda chefnogaeth gan Gyngor Tref Llanelli a Bwyd a Diod Cymru.

Roedd stondinau yn Stryd Stepney a Stryd Vaughan drwy gydol y dydd, gyda gweithgareddau’n cael eu cynnig ar draws y dref i’r teulu cyfan.

I gyd-fynd â’r digwyddiad, roedd parcio am ddim ym meysydd parcio Cyngor Sir Caerfyrddin ledled y dref ar y diwrnod.

Ymhlith y gweithgareddau oedd yn cyd-fynd â’r stondinau bwyd a diod roedd arddangosfeydd celf a chrefft, sesiynau gwneud bisgedi a bara pwmpen yn barod ar gyfer Calan Gaeaf, ac arddangosfeydd bwyd yng Nghanolfan Siopa Santes Elli.

Roedd arddangosfeydd bwyd gan Goleg Sir Gâr, a Ffair Hydref yng Nghanolfan Selwyn Samuel.

Dyma flas o’r stondinau…


O roliau cig rhost i grempogau, roedd rhywbeth at ddant pawb…

Neu beth am gnau â blas yr hydref arnyn nhw…?

Roedd gan fan Patty’s rywbeth ar gyfer pob adeg o’r dydd – o frechdanau brecwast i fyrgyrs…

Os oeddech chi’n chwilio am opsiwn mwy iachus, roedd y stondinau ffrwythau a llysiau yma’n eich annog i gefnogi busnesau lleol…

O’r melys i’r sawrus, roedd gan y cwmni yma o Gynheidre bob math o jam, finegr a siytnis…

Os mai melysion yw’ch pethe chi, roedd hen ddigon o ddewis o gacennau caws blasus, a seidr i’w golchi i lawr – a’r drygioni wedi’i wrthbwyso gan y potiau eco-gyfeillgar!

Roedd gan y cwmni jin yma o Gaerdydd bob blas dan haul…

Ac os nad oedd hynny’n ddigon, neu os oeddech chi’n chwilio am ddiwrnod mwy hamddenol a thawel, roedd artistiaid yn diddanu’r dorf drwy gydol y dydd…