Fe wnaeth Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru ddychwelyd i Sain Ffagan dros y penwythnos hwn (Medi 10 ac 11).

Ynghyd â thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft, buodd sawl cerddor adnabyddus yn perfformio yn yr ŵyl.

Dyma oedd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal yn fyw ers 2019, wedi i Covid-19 orfodi’r trefnwyr i’w chynnal yn ddigidol ers dwy flynedd.

Buodd cerddoriaeth fyw ar ddau lwyfan, a pherfformiadau gan artistiaid megis Hyll, Lily Beau, Parisa Fouladi, Hana Lili, Craven, Banshi, a Small Miracles.

Roedd digwyddiadau i’r teulu mewn amryw o leoliadau ar draws Sain Ffagan hefyd, o ddangosiadau coginio i sesiynau sgiliau syrcas.

Dyma gasgliad o luniau o’r ŵyl…

Torfeydd yn pori’r opsiynau.
Rhai o’r gwerthwyr a fuodd yn yr ŵyl.
Cynulleidfa’n mwynhau’r gerddoriaeth fyw.
Y ffair.

Un o’r bandiau a fuodd yn perfformio yn rhan o’r rhaglen wedi’i churadu gan BBC Gorwelion a Tafwyl.
Perfformiad stryd Kitsch n Sync yn gwneud ei ffordd drwy’r ŵyl.
Gwers goginio i blant.

Stondin Austringer Cider.