Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres newydd yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y diddanwr, canwr gwlad a chyflwynydd o Sir Gaerfyrddin, y Welsh Whisperer [Andrew Walton] sydd Ar Blât yr wythnos hon.

Roedd y sefyllfa efo bwyd yn eithaf unigryw yn yr ysgol gynradd reit o’r cychwyn pan oeddwn i tua thair neu bedair oed. Ysgol Cwmbach oedd enw’r lle, sydd bellach wedi cau, ond hyd yn oed tua 1992 pan oeddwn i’n dechrau yno roedd pethau wedi dechrau crebachu oherwydd doedd dim bwyd yn cael ei goginio ar y safle ond yn dod o Ysgol Griffith Jones yn Sanclêr oedd tua chwarter awr lan yr hewl. Felly un o’r atgofion cyntaf yw chips oer yn cyrraedd mewn cesys mawr metel. Rwy’n siŵr bo ni wedi eistedd lawr am ginio tua 1 o’r gloch oherwydd roedd rhaid aros i blant Sanclêr bwyta gyntaf. Mae’n brafiach cofio am y bisgedi mawr ‘na yn llawn siwgr, a’r hufen iâ melys. Dim y dechreuad gorau mewn perthynas gyda bwyd felly. Mae’n ddigon teg i gofio Tryweryn ond bydd ambell un ohonon ni mas fynna yn deall ystyr ‘Cofiwch Cwmbach’ hefyd!

Andrew pan oedd yn dair oed

Mae mam wastad wedi bod yn un da am goginio. Pan oeddwn i’n fach roedd hi’n aml yn gwneud cacennau a phwdinau ei hunan a phob math o brydau yn ddyddiol. Chwarae teg i fy nhad hefyd, mae’r hen foi yn un da am ei hot pot neu fish pie. Rhywbeth dw i wedi etifeddu wrtho fe yw’r diffyg gallu i ddilyn rysáit yn iawn – wna’i edrych arni ond yn ffeindio hi’n anodd dilyn pob cam, felly, fel arfer, ar ôl y trydydd neu bedwerydd cam dw i jyst yn dilyn fy nhrwyn (sydd ddim fel arfer yn gweithio i fod yn onest).

Yn ffodus iawn mae fy ngwraig, Angharad, yn llawer gwell ac yn greadigol ofnadwy yn y gegin ond ers cael Begw, ein merch gyntaf, dw i nôl ar y rheng flaen yn ceisio meddwl am brydau bach diddorol ac iachus ar amserlen dynn (cyn iddi ddechrau crio!).

Mae fy mherthynas gyda bwyd hefyd wedi newid rhywfaint ers tua 2015 pan ges i wybod fy mod i’n byw gyda’r clefyd Crohn. Mae’r cyflwr yn cael ei reoli gyda meddyginiaeth ddyddiol ond yn gyffredinol mae’n rhaid osgoi gormod o fraster, sbeis ac unrhyw beth rhy gyfoethog. Sydd yn anffodus achos dw i yn foi am gael cyri a byrgyrs ac ati ond dyw e ddim werth bod yn sâl chwaith.

Rwy’n un drwg am fwyta pethau fel siocled rhy aml, neu greision. Rwy’n bwyta llai o bethau fel hyn na beth oeddwn i ar un adeg ond dal gormod. Ers bod yn diddanu pobl ar draws y wlad dros y blynyddoedd diwethaf dw i wedi ffeindio fy hun yn y fan am oriau ar y tro ac mae’n hawdd iawn troi at fwydydd fel hyn jyst am rywbeth i wneud, esgus i droi fewn i ryw garej a nôl rhywbeth. Efallai bod hwnna yn swnio yn od i rai ond mae gyrru am 3 neu 4 awr ar y tro mor aml â beth ydw i yn gallu bod yn eithaf diflas!

Y Welsh Whisperer yn mwynhau peint

Rwy’n hoffi bwyd môr, ac unrhyw leoliad yn yr awyr agored. Bydde fy mhryd delfrydol ar draeth yn y Bahamas falle, rhywle trofannol braf. Bach o calypso yn chwarae a falle rhyw gyri pysgod o mlaen. Pina Colada, joio.

Rwy’n ffan fawr o BBQ o ran y bwyd ac yn gymdeithasol – s’dim ots da fi goginio’r bwyd yn y gegin chwaith ond bo ni’n bwyta tu fas. Mae bwyta tu fas ac yn hwyrach yn rhywbeth dw i yn genfigennus bod pobl yng ngwledydd Ewrop yn gwneud, mae’n braf gwneud yma pan mae’r tywydd yn braf er bod y rhan fwyaf o lefydd yn stopio gweini bwyd am 9pm!

Ar ôl sesiwn ar y peints mae eisiau bwyd, fel arfer neith rôl bacwn neu bîns ar dost y job i fod yn onest.  Os dw i’n dod yn ôl yn hwyr y nos, rhywbeth sydd yn gallu digwydd yn weddol aml, dw i’n dueddol o beidio bwyta gormod. Syth i gysgu a delio da fe yn y bore!

Dw i’n hoff o unrhyw lyfr sy’n llawn o brydau ar gyfer slow cooker. Fy math i o goginio yw hwnna, slap mewn i bopeth a gadael tan amser te!