Dŵr Llanllŷr Source
Ym mis Chwefror fe fydd cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn teithio i Dubai ar gyfer y sioe fwyd a lletygarwch fwyaf yn y byd.
Mae sioe fwyd a lletygarwch Gullfood yn ei ugeinfed flwyddyn, gan ddenu dros bum mil o arddangoswyr ar draws y byd.
Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru bydd pymtheg o gynhyrchwyr Cymreig yn bresennol o dan faner ‘Bwyd a Diod Cymru’ rhwng 8 a 12 Chwefror.
Marchnata’n fyd-eang
Un o’r cynhyrchwyr fydd yn teithio draw yw cwmni dŵr Llanllŷr Source o Geredigion.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Patrick Gee, ei fod yn cydnabod pwysigrwydd digwyddiadau o’r fath ar gyfer eu busnes wrth geisio torri trwyddo i’r farchnad yn y Dwyrain Canol.
“Nid yn aml y cewch y cyfle i gyfarfod a thrafod wyneb yn wyneb gyda chymaint o ddosbarthwyr a phrynwyr allweddol, i gyd o dan yr un to, er ei fod yn do go fawr!” meddai Patrick Gee.
“Fel cymaint o gynhyrchwyr o Gymru erbyn hyn mae ein marchnad yn un fyd-eang ac mae’n rhaid inni fanteisio ar gyfleoedd o’r math yma.”
Un arall fydd yn teithio yno fydd Gilly Barber o D Sidoli & Sons ym Mhowys, cwmni sydd yn arbenigo mewn cynhyrchu hufen ia.
“Rydym wedi buddsoddi’n helaeth yn ein safle yn y Trallwng dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn diwallu’r galw gan archebion o Ewrop ac rydym yn cyflogi dros 350 o staff, sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol,” meddai Gilly Barber.
“Os gallwn ddatblygu ein marchnad yn y Dwyrain Canol mae’n debyg y bydd rhaid inni feddwl am ehangu’r busnes fwy fyth, felly croeswn ein bysedd y cawn groeso cynnes yn Dubai.”
Pwysigrwydd allforion
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Amaeth a Bwyd Rebecca Evans fod presenoldeb Cymreig yn y digwyddiad yn gyfle pwysig i ehangu marchnad allforio Cymru.
“Mae ein sector bwyd a diod yn un y gallwn fod yn falch iawn ohono ac mae angen inni sicrhau bod pawb yn gwybod amdano,” meddai Rebecca Evans.
“Mae hefyd yn ffactor economaidd o bwys – yn ystod y pedwar chwarter diwethaf roedd allforion bwyd a diod o Gymru werth dros £300 miliwn, cynnydd o 3.4% ar y flwyddyn gynt, cynnydd uwch na’r ffigwr ar gyfer y DU yn yr un cyfnod.”