Pobi, llyfr ryseitiau Elliw Gwawr
Fe fydd ail lyfr pobi gan yr awdures Elliw Gwawr yn cael ei lansio’r wythnos hon yn dilyn llwyddiant ei chasgliad cyntaf o rysetiau, Paned a Chacen.

Gyda mwy o bobl ym Mhrydain wedi gwylio ffeinal rhaglen y Great British Bake Off na welodd ffeinal Cwpan y Byd ym Mrasil dros yr haf, does dim syndod bod aroglau’r popty wedi hudo’r Cymry i’r gegin yn ogystal.

Yr wythnos hon fe fydd Pobi, ail lyfr rysetiau Elliw Gwawr, yn cael ei gyhoeddi gan y Lolfa, gyda’r awdures yn gobeithio y bydd y copïau’n gwerthu allan yn yr un modd ac y gwnaeth ei llyfr cyntaf.

“Mae’n amlwg fod poblogrwydd pobi gartref ar gynnydd o hyd,” meddai Elliw Gwawr, sydd hefyd yn Ohebydd Gwleidyddol BBC Cymru yn San Steffan.

“Mae yna gyfoeth o hen ryseitiau i’w canfod a rhai newydd i’w creu, a dw i’n dal i gael yr un pleser ag erioed o gamu i mewn i’r gegin i arbrofi.

“Fel fy llyfr cyntaf, dw i’n cyfuno’r hen â’r newydd ac yn diweddaru ryseitiau traddodiadol â blasau modern yn Pobi.

Dylai’r gyfrol gynnig rhywbeth i bawb ar bob achlysur: boed o’n ddathliad arbennig, yn bicnic yn y parc neu’n damaid melys i fwynhau a phaned.”

Pennod sawrus

Mae Pobi yn cynnwys amrywiaeth o rysetiau cyflym a mwy heriol, er mwyn ceisio anelu at ddechreuwyr a chogyddion profiadol.

Ond nid ail fersiwn o Paned a Chacen yn unig yw’r llyfr, yn ôl yr awdures – mae pennod newydd ar bobi danteithion sawrus hefyd.

“Mae pawb yn gwybod erbyn hyn bod gen i ddant melys, ond mae yna lond popty o bethau sawrus y gellir eu coginio hefyd,” meddai Elliw Gwawr.

“Felly, dw i wedi cynnwys pennod ar bobi sawrus y tro hwn, gyda ryseitiau fel rholiau selsig, pasteiod a thartenni caws ffeta a sbigoglys.

“Mae’r broses o baratoi’r ryseitiau ar gyfer bara yn un hamddenol, am nad oes modd ei frysio. Pa ffordd well sydd yna o gael gwared ar rwystredigaethau’r wythnos?”