Dafydd Morgan, yn agoriad Siop gymunedol Capel Dewi gyda'i Ddad-cu, Dai Morgan
Dafydd Morgan sy’n adrodd hanes agoriad siop gymunedol newydd yng Ngorllewin Cymru…
Roedd agoriad swyddogol ‘Siop Dewi’, siop gymunedol newydd yng Nghapel Dewi, ger Llandysul, ar ddydd Gwener y 17 Mai, gyda nifer o’r pentre’ a’r ardal leol wedi dod i fod yn rhan o’r digwyddiad.
Er gwaetha’r tywydd, roedd yna ryw chwarter awr lle ddaeth y glaw i stop, a chafodd dad-cu, Dai Morgan cyfle i dorri’r rhuban er mwyn agor i siop yn swyddogol. Mae Dai wedi bod yn byw yng Nghapel Dewi trwy gydol ei oes (ers 1920) ac felly wedi gweld pawb a phopeth yn mynd a dod yno. Yn ystod ei fywyd dywedodd bod “5 siop wahanol wedi bod yng Nghapel Dewi”, felly mae ’na draddodiad cryf o siopa yng Nghapel Dewi!
Er hynny, ers 2008 mae Capel Dewi wedi bod heb siop, ac felly penderfynodd pwyllgor cymunedol y pentref, Dolen Dewi, bod angen gwneud rhywbeth am y peth. Meddai Tom Cowcher, Cadeirydd Dolen Dewi, “Mae llawer o bethau wedi mynd o’r pentre’, fel yr ysgol. Fe gaeodd y siop bum mlynedd yn ôl, does dim tafarn, ac felly fe benderfynon ni wneud rhywbeth amdano.”
Fe dderbyniodd y prosiect £25,000 o bunnoedd gan y Gronfa Loteri Fawr, gyda help Sefydliad Plunkett sy’n cefnogi datblygiad siopau cymunedol. Fe wnaeth hyn ganiatáu i’r pwyllgor allu trawsnewid hen gegin oedd ar ochr neuadd y pentre’ i mewn i siop.
Er lles y gymuned
Ond yn hytrach na siop arferol, mae Siop Dewi yn cael ei redeg fel siop gymunedol. Mae’n cael ei redeg nid er mwyn gwneud elw, ond er lles y gymuned. Gwirfoddolwyr sydd yn gweithio yno, ac mae’r siop yn gwerthu nwyddau lleol lle mae’n bosib, o gacennau, i ffrwythau a llysiau, ac mae cigydd lleol yn cyflenwi’r siop hefyd. Mae Siop Dewi yn annog garddwyr lleol i werthu eu cynnyrch yn y siop, fel bod y bwyd mor ffres ac mor lleol ag sy’n bosib. Mae’r siop hefyd yn gwerthu nwyddau organig a Masnach Deg.
Mae yna bopeth yno er mwyn llanw eich cwpwrdd yn y gegin, ac maent nawr yn gwerthu papurau newydd. Mae modd cael cwpaned o de neu goffi yno wrth siopa, a syrffio’r we gan fod WiFi yno hefyd. Cyn hir mae disgwyl i fan Swyddfa’r Bost ddod tu allan i’r siop unwaith yr wythnos er mwyn gallu defnyddio eu gwasanaethau.
Mae’n amlwg bod sail gref gan y siop, a hyd yn hyn mae wedi bod yn fenter lwyddiannus iawn. Mae’r elfen gymunedol sy’n perthyn i’r siop yn rhywbeth rydym yn gweld mwy ohono yn ddiweddar ar draws Cymru, ac mae’n dangos bod modd cadw cymuned gyda’i gilydd os yw ysgolion neu dafarndai yn cau os yw’r gymuned yn barod i weithio a meddwl tu fas y bocs. Mae mam-gu, er enghraifft yn mwynhau mynd i’r siop unwaith yr wythnos, nid yn unig i brynu nwyddau, ond hefyd i gael clonc gyda’r bobl leol, rhywbeth nad oedd yn digwydd cyn i’r siop agor, ac felly mae modd gweld effaith y siop ar y pentre’ yn syth.
Y neges fan hyn felly yw bod modd cadw cymuned gyda’i gilydd. Ydy, mae’n waith caled, ond mae’n werth e’ yn y pen draw.
Am fwy o wybodaeth am Siop Dewi ewch i wefan y siop.