Mae Llwyddo’n Lleol 2050 am geisio ateb yr her sy’n deillio o ddiffyg cyfleoedd yn y maes newyddiadurol yn ardaloedd gwledig Cymru.

Mae gan y prosiect gyfle arbennig i ddeuddeg person o siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sydd angen mwy o gyfleoedd mewn newyddiadura ymuno â rhaglen hyfforddiant newyddiaduraeth chwe wythnos trwy Bro360.

Yn ôl Lowri Jones, Pennaeth Datblygu a Phrosiectau Golwg, mae’n bosib gohebu yn eich bro er budd cymdeithas, ac mae’r rhaglen yma wedi’i llunio at y perwyl hwnnw.

“Os oes un swydd sydd ddim yn ddibynnol ar symud bant, swydd gohebydd yw honno,” meddai.

“Mae adrodd ar straeon sy’n bwysig i bobol a’n cymunedau yn bwysig ym mhob cwr o Gymru, ac mae gohebwyr da yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i gymdeithas.

“Mae’r cwrs yma’n gyfle i fagu hyder a mireinio sgiliau amrywiol.

“Os ydych chi’n meddwl bod gennych drwyn da am stori a sgiliau cyfathrebu da, ewch amdani!”

Pobol ifanc ar lawr gwlad

Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at bobol ifanc ar lawr gwlad yn benodol.

“Rydym yn galw ar bobol ifanc rhwng 16-35 oed o ardal ARFOR (sef siroedd Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn), sydd â diddordeb datblygu sgiliau newyddiadurol a’u defnyddio ar lawr gwlad i gysylltu â ni,” meddai Aled Pritchard, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol.

“Y gobaith drwy’r rhaglen yma yw ysbrydoli bobol ifanc ARFOR fod modd Llwyddo’n Lleol a thanio eu gyrfaoedd yn y byd newyddiadurol.”

Y rhaglen

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr yn y maes ar agweddau gwahanol o fewn y maes newyddiaduraeth, gan gynnwys sut i strwythuro stori dda, creu deunydd aml-gyfrwng, a defnyddio Bro360 yn eu hardal leol.

Yn ogystal â derbyn cefnogaeth arbenigol, fe fydd yna gyfle iddyn nhw fod yn rhan o rwydwaith o newyddiadurwyr uchelgeisiol, a chael profiad gwerthfawr i’w gynnwys ar eu CV.

Mae’r cyfle yn rhan o elfen ‘Mentro’ y prosiect, ac wedi’i sbarduno ar ôl clywed bod 62% o bobol ifanc mewn ardaloedd gwledig yn credu bod mwy o gyfleoedd yn y maes newyddiadurol o symud oddi cartref.

Ail ffenest

Dyma’r ail ffenest ymgeisio o dan yr elfen ‘Mentro’ sy’n canolbwyntio ar fireinio sgiliau newyddiaduraeth yn unig, ac mi fydd y ffenest yn agored rhwng Hydref 4-23.

Cyn mynd ati i lenwi’r ffurflen gais, mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i ddarganfod mwy am y cyfle a’r gofynion drwy ddarllen y canllawiau.