Mae un o gynghorau’r gogledd wedi cymeradwyo argymhelliad i godi ffioedd trwyddedau tacsis gan 12%.

Mae’r cyhoeddiad wedi arwain at bryderon y gallai prisiau tacsis gynyddu, gan adael mwy o bobol heb ffyrdd o deithio a llai o bobol yn trio dod yn yrwyr tacsi.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae angen y cynnydd er mwyn adfer “costau cynyddol”.

Fe wnaeth pwyllgor trwyddedu cyffredinol y Cyngor gymeradwyo’r cynnig oedd yn argymell codi’r ffi o Hydref 1, 2023.

Dywedodd swyddog y cyngor, Gwenan Mai Roberts, mewn cyfarfod ddoe (Medi 25) bod angen y cynnydd er mwyn sicrhau bod posib talu am y gwaith gweinyddu a chadw golwg ar drwyddedau.

Ar ôl i’r pwyllgor dderbyn y cynnig yn unfrydol, dywedodd: “Dw i’n meddwl ei bod hi’n anochel y byddan ni’n cael cais gan y diwydiant tacsis ryw ben i gynyddu cyfraddau eu prisiau a bydd rhaid i’r is-bwyllgor ystyried hyn.”

Ers 2013, mae ffioedd trwyddedau’n cael eu hadolygu’n flynyddol, a does dim newid wedi bod ers dwy flynedd yn sgil y pandemig.

‘Gwneud pethau’n anodd’

Daeth ymgynghoriad 28 niwrnod ar y cynnig i gynyddu’r ffi yn 2023 i ben ar Awst 18, gyda dim ond un e-bost yn gwrthwynebu.

Fe wnaeth un cwmni tacsi lleol e-bostio gyda phryderon y byddai’r cynnydd yn “gwneud pethau’n anodd” i gwmnïau ddenu gyrwyr newydd.

Dywedodd hefyd bod prinder tacsis ym Mhwllheli a Phen Llŷn, a bod y diwydiant tacsis dal i drio adfer eu busnes ar ôl gostyngiad mewn incwm yn ystod y cyfnodau clo.

Roedd e’n credu bod costau uned drwyddedau’r cyngor yn debyg o fod wedi gostwng oherwydd bod nifer o gwmnïau tacsi yn gwneud ceisiadau eu hunain ar-lein.

‘Sawl ffactor’

Ond dywedodd Gwenan Mai Roberts bod y pwysau gwaith a’r costau “ymhob rhan o’r broses”, gan gynnwys y system ar-lein, wedi cynyddu,

Roedd sawl ffactor “yn rhan o’r gymysgedd” wrth adolygu costau, gan gynnwys chwyddiant cynyddol, hyfforddiant, costau hysbysebu, staffio a chyflogaeth.

Mae mwy o wiriadau gan y DVLA a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi wedi cynyddu’r llwyth gwaith hefyd.

“Dros y wlad mae tacsis dan y chwyddwydr gyda threthi, mae’n rhaid iddyn nhw gofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, gall fod yn anodd i gwmnïau tacsi, dyw hi ddim y system symlaf,” meddai Gwenan Mai Roberts.

“Mae’n rhaid i ni edrych ar recordiadau troseddol hefyd, mae yna lot o waith ynghlwm â thrwyddedau gyrru, a’r system hunanwasanaeth.

“Dydy ceisiadau ddim yn cael eu ffeilio’n iawn o hyd, dydy’r system ar-lein ddim yn gwybod hynny, yr oll mae’n wybod yw bod cais wedi cael ei roi. Yn aml rydyn ni’n mynd yn ôl at yr ymgeisydd, sawl gwaith.”

Ychwanegodd bod y cabinet wedi cytuno y gallai’r uned drwyddedau trio cynyddu eu hincwm fel eu bod nhw’n “talu’u costau eu hunain yn llawn” yn sgil y “sefyllfa ariannol ofnadwy” mae’r cyngor ynddi.

‘Ergyd fawr’ colli trafnidiaeth

Yn ystod trafodaeth, dywedodd y Cynghorydd John Brynmor Hughes, bod yna nifer o dacsis yn Abersoch, ond eu bod nhw’n aml yn ddrud, hyd yn oed ar gyfer siwrnai byr.

Fe wnaeth y Cynghorydd Angela Russell ychwanegu ei phryderon bod pobol yn cael eu hynysu: “Rydyn ni wedi colli’r bws 10 o’r gloch ym Mhen Llŷn yn barod, mae’n ergyd fawr.

“Rydyn ni’n siarad am y Ddeddf Llesiant, pwysigrwydd cymdeithasu, ond mae yna fwy o bobol methu mynd allan i wylio gêm rygbi a mwynhau peint nawr.”

Dywedodd y Cynghorydd Edgar Owen bod y polisi’n dweud bod rhaid i ffioedd dalu am gostau’r adran, tra diolchodd y Cynghorydd Eryl Jones Williams i’r “gyrwyr tacsi weithiodd mor galed yn ystod Covid”.

“Dw i’n meddwl y dylen ni ddiolch i’r cwmnïau tacsi am yr hyn wnaethon nhw’n ystod Covid yn mynd â phobol i’r ysbyty,” meddai.

“Fe wnaethon nhw weithio’n galed, fe wnaeth nifer o yrwyr tacsis ddal Covid eu hunain a bu farw rhai, a dylen ni ddangos ein diolch.

“Ond mae’n cynyddu 12%, oherwydd wnaethon ni ddim cynyddu’r ffi yn ystod Covid.”