Mae’n bosib y bydd streiciau yn effeithio ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu yng Ngwynedd yr wythnos hon (Medi 11 – 17).
Yn ôl Cyngor Gwynedd, maen nhw’n gwneud eu gorau i leihau effaith gweithredu diwydiannol yn y sir.
Bydd aelodau undeb Unite yng Ngwynedd yn cymryd rhan mewn streic dros gyflog yn ystod y dyddiau nesaf.
Doedd hi ddim yn bosib gwybod effaith llawn y streic tan iddi ddechrau, meddai Cyngor Gwynedd, wrth ymddiheuro am “unrhyw anghyfleustra”.
Mae’n debyg y bydd y streic yn effeithio ar rai gwasanaethau o fewn adrannau Amgylchedd, Priffyrdd a Pheirianneg Cyngor Gwynedd.
Fe wnaeth aelodau Unite wrthod cynnig codiad cyflog o £1,925 gan y Cyflogwyr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol yn ddiweddar.
Mae aelodau Unite yng Nghyngor Caerdydd a Wrecsam wedi bod yn streicio ers Medi 4 hefyd.
Trefniadau
Mae gofyn i drigolion roi eu biniau a chartiau ailgylchu allan fel arfer ar eu diwrnodau casglu arferol, meddai Cyngor Gwynedd.
Os nad yw casgliad wedi digwydd erbyn diwedd y dydd, maen nhw’n gofyn i bobol ddod a’u biniau a chartiau o’r man casglu gan na fydd modd cwblhau unrhyw gasgliadau sydd wedi eu methu yn ystod yr wythnos.
Mae disgwyl i ganolfannau ailgylchu’r Cyngor aros ar agor yn ystod y cyfnod.
Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn nodi ei bod hi’n bosib na fydd biniau stryd yn cael eu gwagio yn ystod yr wythnos.
Ni fydd gwasanaethau hanfodol fel gofal, cartrefi preswyl, ysgolion na’r Amlosgfa ym Mangor yn cael eu heffeithio gan y streic.
‘Annerbyniol’
Mae aelodau Unite yng Nghwm Cynon wedi pleidleisio o blaid streic hefyd, a dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb ei bod hi’n “annerbyniol” bod gweithwyr yn dioddef yn sgil blynyddoedd o doriadau i’w cyflog gwirionedd.
“Mae gweithwyr cyngor Cymru ar y rheng flaen yn darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau dros y wlad,” meddai Sharon Graham.
“Dydy Unite byth yn cymryd cam yn ôl wrth gefnogi’i haelodau ac rydyn ni wedi ymroi i wella eu swyddi, tâl ac amodau.
“Bydd Unite yn rhoi cefnogaeth lwyr i’n haelodau mewn awdurdodau lleol.”
Ychwanegodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite yng Nghymru, bod gweithwyr yn “haeddu gwell”.
“Oni bai bod cynnig gwell fydd y gweithredu diwydiannol ond yn gwaethygu yn ystod misoedd yr Hydref.”