Mae camera gafodd ei osod mewn pentref yn Ynys Môn er mwyn atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol wedi cael ei ddifrodi lai na 24 awr ers cael ei osod.

Roedd Cyngor Cymuned Llanbadrig yn gobeithio y byddai’r camera yng Nghemaes yn helpu i fynd i’r afael â’r ffaith bod pobol yn gallu mynd a dod i’r traeth gyda chychod neu jetskis heb reolaeth.

Mae problemau wedi bod gyda gwastraff dynol a sbwriel yn cael ei daflu i’r afon a barbeciws untro’n achosi perygl tân hefyd.

Ond bron yn syth ar ôl i’r camera gael ei osod, cafodd ei ddifrodi.

Mae’r cyngor wedi lansio apêl, ac wedi dweud wrth Heddlu Gogledd Cymru am y drosedd.

Mewn datganiad gafodd ei roi ar hysbysfwrdd y pentref, dywedodd y cyngor bod y camera wedi cael ei osod ym maes parcio’r traeth ddydd Gwener, Awst 11, ond nad oedd wedi’i gysylltu eto.

Erbyn y dydd Sadwrn, roedd y polyn oedd yn dal y camera wedi cael ei wthio drosodd a’r camera wedi’i ddifrodi, gan adael y cyngor â chostau gwerth £2,000.

Ers hynny, mae’r camera wedi cael ei ailosod.

‘Pryder am ddiogelwch’

Cafodd y camera ei osod yn sgil nifer o gwynion a phryderon gan bobol leol ynghylch “materion iechyd a diogelwch” yn yr ardal, meddai’r cyngor.

Mae’r nodyn ar yr hysbysfwrdd yn dweud sut bod clo i bostyn sy’n rhwystro mynedfa i’r traeth wedi cael ei dorri “o leiaf bedair gwaith” a bod y postyn wedi cael ei symud.

Mae hynny wedi caniatáu i nifer o gerbydau a threlars fynd ar y traeth heb reolaeth er mwyn lansio cychod neu jetskis – “hyd yn oed pan mae’r traeth yn brysur gyda theuluoedd yn mwynhau eu hunain”, meddai’r nodyn.

Mae system allweddi mewn lle er mwyn i bobol agor y pyst a chael mynediad i’r traeth, ac mae honno’n cael ei monitro gan y cyngor cymuned ar gais.

Ynghyd â hynny, mae sbwriel a gwastraff dynol wedi cael ei ollwng i’r afon, partïon wedi cael eu cynnal ar y traeth, barbeciw untro’n creithio bwrdd pren, barbeciws yn cael eu cynnal yn hwyr yn y nos, a cheir yn gyrru ar hyd y prom wrth i bobol yn cerdded ar ei hyd.

Meddai’r cyngor: “Mae nifer o rieni wedi cwyno am y digwyddiadau hyn ac yn poeni am ddiogelwch eu plant.

“Dim ond ychydig o’r prif gwynion yw’r rhain, fel cyngor cymuned rydyn ni’n ymateb i bryderon trigolion dros iechyd a diogelwch.

“Mae diogelwch ein cymuned ac ymwelwyr yn bwysig iawn i ni fel aelodau’r cyngor.”

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor cymuned nad ydyn nhw am wneud sylw pellach ar y mater, gan ofyn i unrhyw un all helpu, sy’n gwybod unrhyw beth am y digwyddiad neu sydd ag unrhyw sylwadau, i gysylltu â nhw ar Llanbadrig@live.co.uk

Mae’r mater wedi cael ei gyfeirio at Heddlu Gogledd Cymru, a’r rhif digwyddiad yw A128301.