Cafodd gwefan fro newydd ei lansio yn Sioe Môn yr wythnos hon.

Llwyfan straeon lleol i bobol Ynys Môn, gan bobol yr Ynys, ydy Môn360, sy’n rhan o rwydwaith gwefannau Bro360, dan gwmni Golwg.

Mae gan y wefan fro dros 400 o aelodau yn barod, a gall unrhyw un sy’n byw ar yr Ynys ddod yn aelod, cyhoeddi stori, hyrwyddo digwyddiad, neu dderbyn egylchlythyr.

Môn360 ydy’r ddeuddegfed gwefan fro i fynd yn fyw dan rwydwaith Bro360, a’r gyntaf tu allan i Arfon a Cheredigion.

Dywedodd Lowri Jones, Pennaeth Datblygu a Phrosiectau Golwg, mai’r nod ydy cryfhau ymwneud pobol â’u cymunedau drwy eu hymbweru i feddwl yn greadigol a gweithredu’n gadarnhaol.

“Trwy groesawu cymunedau Môn mewn i’r teulu o wefannau bro, sy’n tyfu’n gyflym, rydym yn edrych ymlaen at barhau i ysgogi, galluogi a chefnogi’r cymunedau i ffynnu, ac i weld Môn360 yn datblygu i fod ‘y lle’ i droi ato ar gyfer cael y newyddion diweddaraf, gweld be sydd ymlaen, a dod o hyd i fusnesau lleol i’w cefnogi,” meddai.

Melin Llynon yn ysbrydoli

I ddathlu’r llwyfan newydd, cafwyd adloniant gan y band lleol Fleur de Lys a chyflwynwyd gwobr i Awen Haf Jones am ei dyluniad wnaeth ysbrydoli logo Môn360.

Melin Llynon oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i’w chynllun, a dywedodd Awen Haf Jones, sy’n ddisgybl yn astudio TGAU yn Ysgol Bodedern, fod y felin yn lle arbennig yn ystod ei phlentyndod gan fod ei Mam yn gweithio yno ac roedd wrth ei bodd yn ymweld â’r lle.

“Mae’n gynrychiolaeth o leoliad hyfryd yn Sir Fôn ac roeddwn eisiau dangos harddwch yr ardal a chynrychioli hanes y diwylliant amaethyddol yn y logo,” meddai.