Mae rhan newydd o lwybr yr arfordir wedi agor drwy dir Ystâd Penrhyn ger Bangor.
Er bod Llwybr Arfordir Cymru wedi’i lansio dros ddeng mlynedd yn ôl, mae addasiadau’n cael eu gwneud yn gyson, a’r diweddaraf yw’r 3.2km newydd rhwng Porth Penrhyn ym Mangor a Gwarchodfa Natur Aberogwen.
Mae’r llwybr yn disodli’r llwybr presennol sy’n mynd â cherddwyr oddi wrth yr arfordir tuag at bentref Tal-y-bont.
‘Agor cyn gynted â phosib’
Dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr, ond oherwydd tywydd gwlyb bu’n rhaid oedi’r gwaith am ychydig fisoedd, yn ôl Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer y rhanbarth.
“Mae’n braf gweld penllanw’r holl waith caled a gallu croesawu cerddwyr i’r ardal brydferth hon,” meddai.
“Bydd mân waith yn parhau dros yr wythnosau nesaf, ond gyda chymaint o ddiddordeb yn y llwybr penderfynwyd ei agor cyn gynted â phosib.
“Mae hwn wedi bod yn gynllun unigryw gan fod angen taro cydbwysedd rhwng creu mynediad cyhoeddus a natur a’n bod wedi llwyddo i wneud hyn.”
Mae’r llwybr newydd yn mynd drwy goetir a pharc, ac mae’n nes at yr arfordir na’r hen lwybr.
“Mae’r goedlan ei hun wedi ei dynodi yn goedwig hynafol ac o ganlyniad rhaid i ni osod meinwe pwrpasol i warchod gwreiddiau’r coed,” meddai Rhys Roberts.
“Mewn rhannau eraill mae’r Llwybr wedi ei ffensio’n ddwbl i sicrhau nad yw cerddwyr yn amharu ar yr adar sy’n nythu ar flaendraeth Traeth Lafan.
“Bydd gwaith adfer amgylcheddol yn parhau i’r gaeaf. Mae nifer o flychau nythu adar ac ystlumod eisoes wedi’u gosod, a bydd nifer helaeth o goed yn cael eu plannu.”
‘Golygfeydd ysblennydd’
Dywed Richard Douglas Pennant ar ran ymddiriedolwyr Penrhyn Settles Estates, perchnogion Parc Penrhyn, ei bod hi wedi bod yn bleser iddo yntau, y teulu a’r ymddiriedolwyr weithio gyda Chyngor Gwynedd i sefydlu’r rhan newydd o’r llwybr.
“Rydym yn gobeithio bydd y llwybr newydd yn rhoi pleser mawr i gerddwyr a gaiff fwynhau golygfeydd ysblennydd o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, y Fenai a Sir Fôn,” meddai.
“Mae fy nheulu a’n ymddiriedolwyr yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Cyngor i sicrhau bod cymuned Bangor a thu hwnt, a’r wlad gyfan, yn parhau i elwa o’r llwybr.”
Cysylltiadau hanesyddol
Ychwanega Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, fod y rhan newydd yn “ychwanegiad gwych” o ran yr hanes a’r golygfeydd.
“O Draeth Lafan yr anfonwyd corff Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, i’w chladdu ym mynachlog Llan-faes yn 1237,” meddai.
“Yn y gornel hon o Arfon y ganwyd Gwenllian hefyd, sef merch Llywelyn ein Llyw Olaf, cyn cael ei herwgipio a’i chymryd i leiandy Sempringham yn Swydd Lincoln, a hithau dim ond yn flwydd oed.
“Hefyd ar lefel hanesyddol, mae’r hyn y mae’r llwybr newydd yn ei gynrychioli yn seicoleg pobol Arfon fel symbol o berchnogaeth leol dros ran o dir Stad y Penrhyn yn amlwg.
“Ymhellach, o’r ffensio i’r waliau ac i’r gwaith o osod y llwybr ei hun, mae’r prosiect wedi bod yn hwb i gyflogaeth leol.
“Fe wnaeth nifer ohonom fagu gwerthfawrogiad o lwybrau cerdded lleol yn ystod Covid, ac er i’r pandemig amharu ar y gwaith diweddaraf hwn i’r Llwybr, mae bellach yn bosibl i bobol leol fwynhau rhan o’u bro nad ydyn nhw erioed wedi’i gweld o’r blaen.
“Rhaid pwysleisio nad yw’r prosiect wedi’i gwblhau’n llawn eto, ac y bydd addasiadau’n cael eu gwneud rhwng rŵan a’r hydref, ond dwi’n falch o ddweud bod y llwybr bellach ar agor i’r cyhoedd.
“Hoffwn ddiolch i Rhys o adran amgylchedd Cyngor Gwynedd am y cyfle i weld y rhan newydd o’r Llwybr.”