Bydd cyfle’n ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol i gerdded un o fryngaerau Llŷn gyda’r archeolegwr Rhys Mwyn.
Mae Tafarn y Fic ym mhentref Llithfaen wedi trefnu taith gerdded rhad ac am ddim gyda’r cerddor i Dre’r Ceiri ar y dydd Mercher (Gorffennaf 9).
Mae’r fryngaer, sy’n rhan o fynyddoedd yr Eifl, yn dyddio’n ôl i Oes yr Haearn, ac mae’n bosib ei fod mewn defnydd tua 300 neu 200 o flynyddoedd cyn Crist.
Yn ôl yr arbenigwr Rhys Mwyn, sy’n golofnydd i Golwg, mae’n bosib bod yn wahanol gyfnodau o ddefnydd yn Nhre’r Ceiri .
“Mae’n bosib iawn bod pobol wedi mynd yn ôl ac ymlaen. Yn sicr iawn mae mewn defnydd yn ystod y cyfnod Rhufeinig,” meddai Rhys Mwyn wrth golwg360.
“Beth sy’n bwysig am hynny ydy ei fod yn dangos bod y llwythi brodorol yr adeg yma yn Llŷn yn cyd-fyw efo’r Rhufeiniaid.
“Does dim awgrym o gwbl bod y Rhufeiniaid yn ymosod ar Dre’r Ceiri. Mae hwnnw’n un peth pwysig.”
‘Un o’r bryngaearau gorau’
Mae’r fryngaer mewn cyflwr da, diolch i waith gan David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.
“Mae o’n un o’r bryngaerau gorau yng Nghymru i ymweld â hi,” meddai Rhys Mwyn.
“Mae yna oddeutu 50 o adeiladau o fewn y Gaer bysa efallai wedi bod yn gartrefi a gweithdai ac yn y blaen.”
“David Hopewell sydd wedi awgrymu bod efallai mwy na un cyfnod [o annedd] yna.
“Mae o’n gweld bod rhai o’r cytiau crynion lle bysa pobol wedi byw wedi cael eu rhannu yn ddau.
“Mae rhai o’r cytiau crynion wedi cael eu hadeiladu o fewn adfeilion cytiau crynion cynharach.
“Trwy astudio hynny mae wedi awgrymu bod yna efallai cyfnod o ail ddefnydd, efallai bod nhw’n mynd nôl i’r gaer.
“O bosib dydyn ni ddim yn siŵr efallai bod yna gyfnodau segur, efallai bod y gaer yn wag am gyfnodau. Mae sobor o anodd bod yn hollol sicr, dehongli ydyn ni.”
Bydd y daith yn dechrau am 11 y bore, ac mae gofyn cadw lle drwy e-bostio tafarnyfic@gmail.com.