Mae Cyngor Gwynedd yn barod i ystyried rhoi grantiau i fudiadau, cyrff a sefydliadau addas er mwyn hybu neu sicrhau gweithgareddau ym meysydd yr holl gelfyddydau er mwyn cyfoethogi bywydau trigolion ac ymwelwyr y sir, ac i gynnal a chryfhau diwylliant a chelfyddydau cynhenid ei bröydd.

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried ceisiadau ar gyfer y celfyddydau perfformio, gweledol, llenyddol, cerddorol a diwylliannol cynhenid.

Caiff cymdeithasau gwirfoddol, cyrff cyhoeddus, cwmnïau gwarantedig nad ydyn nhw’n dosbarthu elw i’w haelodau, a mudiadau eraill priodol eu hystyried, ar yr amod fod gan y cyrff hyn amcanion sydd yn cwmpasu maes celfyddydol.

Mae pedwar dyddiad cau i ymgeisio yn ystod y flwyddyn, sef Mawrth 30, Mehefin 30, Medi 30 a Rhagfyr 30.

“Mae diffyg gwasanaethau creadigol mewn ardaloedd fel hyn, mewn pentrefi bach felly mae’n ofnadwy o bwysig bod ni’n cael y cyfleoedd yma i geisio gwneud rhywbeth i bobol ifanc a phobol y pentref,” meddai Rebecca Phasey, Cyfywyddwraig Theatr Gybolfa (clwb drama), sydd wedi cael grant, wrth golwg360.

“Mae’n gyfle na fysent yn cael fel arall, ac mae’r grant yn helpu ni i allu gwneud hynny.”

Defnyddio’r arian

Felly sut mae’r arian yma o gymorth?

Gan mai grant celfyddydau yw hwn, mae Theatr Gybolfa yn ei ddefnyddio i feithrin creadigrwydd yn y genhedlaeth nesaf, a mawr yw’r galw yng Ngellilydan am y clwb.

Cam cynta’r dyfodol yw’r clwb hwn i Theatr Gybolfa, ac mae gan y plant ddyfodol disglair yn y maes perfformio.

Mae’r grant yn golygu bod Theatr Gybolfa wedi gallu cefnogi mudiadau ac elusennau eraill yn yr ardal drwy ddefnyddio eu cynnyrch a’u gwasanaethau.

“Rydym wedi defnyddio’r arian i gynnal clwb drama wythnosol yng Ngellilydan gyda 12 o blant yn dod draw,” meddai Rebecca Phasey wedyn.

“Rydym wedi bod yn gwneud gweithdai gwahanol efo pethau fel canu ac actio.

“Mae’r plant wedi bod yn ysgrifennu gwaith unigryw, gwreiddiol.

“Mae wedi bod yn berffaith i ni allu sefydlu clwb drama wythnosol yn y pentref.

“Mae wedi bod yn llwyddiannus gyda llawer o blant yn dod draw.

“Mae’n amlwg i ni fod y galw yna, a bod angen gwasanaeth fel hyn i’r plant.

“Mae wedi bod y cam cyntaf i ni allu cynnal y rhain yn hirdymor, i gael ychydig o offer, i gael arian i dalu rhent y neuadd, i ni gael cychwyn y sesiynau.

“Drwy ein helpu ni, rydym yn gallu cynnal mudiadau ac elusennau bach eraill yn yr ardal.

“Rydym yn gobeithio parhau efo rheina, bod ni’n gallu cynnal mwy o ddigwyddiadau a rhoi cyfle i’r plant ddangos eu gwaith neu berfformiadau yn y pentref yn y dyfodol.”

Grant bach

O’i gymharu â grantiau eraill, dydy £500 ddim yn swm enfawr ond mae’n fan cychwyn hollbwysig i grwpiau bach fel Theatr Gybolfa.

Mae’n bosib iddyn nhw drio pethau newydd, ac ystyried a fydd angen i bethau aros yr un fath neu newid yn y dyfodol.

“I fenter fel ni sydd yn dibynnu llawer ar wirfoddolwyr, sydd yn grŵp bach iawn o bobol, nid ydym wedi mynd am y grantiau mawr i brosiectau mawr,” meddai Rebecca Phasey.

“Mae cael y £500 cychwynnol yn ffordd grêt i ni wneud sesiynau blasu, trio pethau newydd a gweld sut mae’n gweithio.

“Achos dydyn ni ddim wedi buddsoddi gymaint â hynny i mewn iddo fo ond wedi cael yr arian cychwynnol i helpu sbarduno rhywbeth, rydym yn gallu penderfynu wedyn ydy hyn yn rhywbeth rydym eisiau parhau efo fo.

“Neu rydym yn gallu edrych ar sut rydym am ei newid cyn cymryd y cam nesaf, ac efallai ceisio am grantiau mwy os ydy’r prosiect yn llwyddiannus.”

Mae modd gwneud cais drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd.