Bydd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder – ychydig wythnosau’n unig cyn yr etholiadau lleol.
Mae pob un o’r 13 cynghorydd Llafur a’r pedwar cynghorydd annibynnol, sydd wedi ffurfio clymblaid wrthbleidiol, wedi galw am y bleidlais.
Daw hyn ar ôl i gynghorwyr amau’r arweinydd, y Cynghorydd Nigel Daniels, o beidio â datgelu gwybodaeth hanfodol iddyn nhw ynglŷn ag ymchwiliad yr heddlu i gwmni casglu gwastraff Silent Valley Waste Services Ltd.
Mae Silent Valley yn gwmni sy’n eiddo a’n cael ei reoli gan yr awdurdod lleol, ond fe ddaeth y berthynas rhyngddyn nhw’n destun ymchwiliad ychydig flynyddoedd yn ôl, yn dilyn honiadau o anghysondebau ariannol.
Yn ddiweddarach, fe gyhoeddodd corff Archwilio Cymru adroddiad a oedd wedi canfod methiannau sylweddol yn y berthynas.
Yn sgil hynny, mae cynghorwyr eisoes wedi cytuno i ddirwyn cwmni Silent Valley i ben.
Diffyg hyder
Pan wnaeth cynghorwyr gyfarfod ym mis Chwefror i drafod yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, rheolwr gyfarwyddwr Silent Valley, fod Nigel Daniels wedi derbyn llythyr gan chwythwr chwiban yn Awst 2017 yn cadarnhau dechrau’r ymchwiliad gan yr heddlu.
Ond yn ystod cyfarfod ym mis Mawrth 2018, fe drafododd cynghorwyr ymddeoliad un o swyddogion y Cyngor, gan gynnwys manylion ei bensiwn.
Yn ystod y cyfarfod hwnnw, wnaeth Nigel Daniels ddim egluro bod y swyddog yn destun ymchwiliad gan yr heddlu, er ei bod hi’n debygol y byddai’n ymwybodol o hynny yn sgil y llythyr blaenorol.
Teimla rhai o aelodau’r Cyngor y dylai fod wedi egluro hynny, ac maen nhw nawr wedi colli ffydd ynddo.
“Does gan y Cyngor hwn ddim hyder yn yr arweinydd presennol, Nigel Daniels,” meddai’r cynnig o ddiffyg hyder.
“Oherwydd y diffyg tryloywder, cynhwysiad, a pharch sydd wedi ei ddangos i gyd-aelodau yn ystod cyfarfod Cyngor ym mis Mawrth 22, 2018.”
Fe fydd y cynnig o ddiffyg hyder yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod yfory (dydd Mercher, Mawrth 9).
Dydy’r Cynghorydd Nigel Daniels ddim wedi gwneud sylw eto.