Torfaen sydd â’r gyfradd uchaf o blant sydd mewn gofal yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ffigyrau’r llywodraeth.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf ym Mawrth 2021, roedd 229 allan o 10,000 o boblogaeth dan 18 y sir yn derbyn gofal o gymharu â chyfradd Cymru – 115 i bob 10,000.
Yn sgil hyn, mae un corff gwarchod wedi dweud bod angen gweithredu pellach er mwyn lleihau nifer y plant sydd angen gofal yn y sir.
Merthyr Tudful yw’r sir sydd â’r gyfradd uchaf-ond-un yng Nghymru – 150 i bob 10,000 – tra bod Blaenau Gwent yn drydydd ar 147.
‘Her fawr, gymhleth ac argyfyngus’
Canolbwyntiodd corff Archwilio Cymru ar wasanaethau gofal plant mewn adroddiad a gafodd ei ryddhau yn ddiweddar.
Dywedon nhw yn yr adroddiad hwnnw bod y “twf mewn galw a chost wedi cyflwyno her fawr, gymhleth ac argyfyngus i’r cyngor, a’n parhau i wneud hynny.”
Roedd yr adroddiad yn ystyried a oedd y cyngor yn darparu eu rhaglen trawsnewid gwasanaethau plant yn effeithiol, rhaglen sy’n cynnwys nod allweddol o stopio’r cynnydd yn y gyfradd, gan gadw plant a phobol ifanc yn ddiogel ar yr un pryd.
Yn 2019, rhybuddiodd prif weithredwr Cyngor Torfaen ar y pryd, Alison Ward, bod y cyngor yn “wynebu sefyllfa anghynaladwy” wrth ystyried nifer y plant oedd angen gofal.
Roedd ffigyrau Llywodraeth Cymru’r llynedd yn dangos bod niferoedd yn parhau i gynyddu, o 415 yn 2019 i 445 erbyn 2021.
Nododd yr adroddiad gan Archwilio Cymru bod angen cyflawni targedau “uchelgeisiol” y rhaglen drawsnewid yn fwy effeithiol, a bod angen i’r cyngor “nawr sbarduno cynnydd a gweithredu ar y cyd i sicrhau canlyniadau gwell.”
Ychwanegodd yr adroddiad bod angen “adnabod modelau ymyrraeth gynnar ac atal, a’u gweithredu’n fwy cynhwysfawr”.