Bydd cynghorau sir Ceredigion a Phowys yn parhau i gydweithio ar addysg ar ôl gadael y consortiwm addysg Ein Rhanbarth ar Waith (ERW).
Ar ôl i nifer o awdurdodau lleol adael consortiwm ERW, bwriad Cyngor Sir Ceredigion yw gweithio â Chyngor Sir Powys fel rhan o Bartneriaeth Addysg Canolbarth Cymru.
Mae’r ddau awdurdod eisoes yn gweithio ar nifer o bartneriaethau eraill, gan gynnwys Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n ceisio hybu economi’r ardal, yn ogystal â chydbwyllgorau corfforaethol eraill yn ymwneud â chynllunio strategol a thrafnidiaeth.
‘Rhannu llawer o heriau’
Bydd adroddiad i gabinet Ceredigion wythnos nesaf yn gofyn am gymeradwyo partneriaeth addysg newydd, yn ogystal â’r argymhelliad bod swyddogion o’r ddwy sir yn cydweithio ar rai materion.
Bwriad hyn yw “sicrhau darpariaeth deg i ysgolion ym Mhowys a Cheredigion,” yn ôl yr adroddiad, a fydd yn cael ei drafod ddydd Mawrth, 11 Ionawr.
“Er nad yw addysg yn faes polisi sy’n rhaid ei lywodraethu drwy gydbwyllgor corfforaethol, mae Ceredigion yn rhannu llawer o heriau ac elfennau gyda Phowys, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â chefn gwlad,” medd yr adroddiad.
“Mae’n naturiol felly bod Ceredigion a Phowys yn parhau i weithio’n agos ar yr agenda addysg.”
Y materion sydd dan sylw ar hyn o bryd yw datblygu arweinyddiaeth, amddifadedd a thlodi gwledig, a’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn argymell arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddau awdurdod er mwyn gwireddu’r cynlluniau.