Mae cynghorwyr yng Ngheredigion wedi argymell newid polisi trwyddedu i ganiatáu gwasanaethau cart a cheffyl ar y Prom yn Aberystwyth.

Roedd y Cynghorydd Mark Strong (Plaid Cymru) yn dadlau “os ydyn nhw’n gwneud hyn yn Fienna, gallwn ni ei wneud e yn Aberystwyth!”

Er hynny, cafodd ei nodi mewn cyfarfod heddiw (dydd Iau, 16 Tachwedd) bod y “mwyafrif llethol” o’r cyhoedd a wnaeth ymateb i’r cynlluniau yn eu gwrthwynebu.

Roedd ymgynghoriad cyhoeddus wedi ystyried y cynlluniau i newid y polisi ar ôl i’r Cyngor dderbyn cais yn ddiweddar am ganiatâd i ddechrau gwasanaeth cart a cheffyl yn y dref.

Dydy’r polisi presennol ar gyfer cerbydau trwyddedig, sy’n cynnwys cerbydau llogi preifat, ddim yn cynnwys cart a cheffyl, ac mae’r Cyngor wedi trafod newid y rheolau a chreu is-ddeddf i’w rheoleiddio.

Pryderon

Ymhlith y pryderon mwyaf a gafodd eu codi yn yr ymgynghoriad oedd yr effaith y byddai’r cynllun yn ei gael ar lif traffig a lles anifeiliaid.

Fe wnaeth cynghorwyr bwysleisio’r angen i sicrhau bod ceffylau’n cael eu trin yn dda.

Roedd nifer, gan gynnwys y Cynghorydd Lyndon Lloyd (Plaid Cymru), yn dweud y byddai’r cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar dwristiaeth yn y dref.

Fe wnaeth y pwyllgor gytuno i argymell yn swyddogol bod y cabinet yn mabwysiadu amodau trwyddedu newydd, ac yn creu is-ddeddf newydd sy’n rheoleiddio’r amodau hynny a nodi’r llwybrau dynodedig ar gyfer y cerbydau.