Mae cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer gorsaf bysiau a bloc saith llawr o fflatiau yng ngorllewin Caerdydd.
Bwriad Cyngor Caerdydd yw adeiladu cyfnewidfa drafnidiaeth a 44 o fflatiau ar safle hen ganolfan ailgylchu ar Ffordd Waungron, gyda siop a chaffi ar y llawr gwaelod.
Bydd y Gyfnewidfa Drafnidiaeth Orllewinol yn rhan allweddol o rwydwaith drafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd yn y dyfodol, tra bydd rhai o’r fflatiau yn cael eu defnyddio i letya pobol ddigartref.
Fe wnaeth pwyllgor cynllunio’r Cyngor bleidleisio i roi caniatâd ddydd Mercher, 15 Rhagfyr, ar ôl i bryderon godi ynglŷn â thagfeydd traffig cynyddol a maint yr adeilad.
Er bod y pwyllgor wedi cymeradwyo’r cynllun, gall y penderfyniad terfynol fod yn nwylo Llywodraeth Cymru, sydd “yn ei hanfod wedi rhewi’r broses o wneud penderfyniad,” medd un swyddog.
Mae’n bosib y bydd y Llywodraeth yn galw gweinidogion i wneud y penderfyniad terfynol ar y cais.
Pryderon
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Hill-John (Ceidwadwyr), sy’n cynrychioli Llandaf, bod y cyngor wedi methu ag ymgynghori’n llawn â’r henoed, plant ysgol a theithwyr bws am y datblygiad.
Roedd hi hefyd yn tynnu sylw at bryderon y byddai’r adeilad yn rhy dal, ac y byddai mwy o lygredd aer a thagfeydd traffig yn yr ardal.
“Rydyn ni am gofnodi pryder llethol trigolion lleol,” meddai.
“Rydyn ni’n cefnogi cael mwy o wasanaethau bysiau, gan eu hintegreiddio â rhwydweithiau rheilffyrdd a beicio, ond mae’n rhaid i hynny weithio i bawb a lle does dim cynnydd mewn problemau ansawdd aer.
“Bydd yn arwain at dagfeydd ffyrdd hefyd. Bydd yr ardaloedd o amgylch y gyfnewidfa a Rhodfa’r Gorllewin yn gweld lonydd bysiau a choridorau bysiau cyflym yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r cynllun trafnidiaeth ar gyfer Caerdydd.
“Bydd Rhodfa’r Gorllewin a Ffordd Waungron yn cael eu lleihau i un lôn, gan orfodi’r holl draffig ar hyn o bryd i mewn i’r lonydd sengl hynny.”
Dim problemau wrth ymgynghori
Dywedodd David Davies, swyddog cynllunio’r cyngor, y byddai llygredd aer ddim yn broblem, bod canllawiau ymgynghori wedi eu dilyn, a bod plant ifanc ddim yn cael eu holi wrth wneud ceisiadau cynllunio.
“Cafodd yr ymgynghoriad cyn y cais ei ddarparu gan yr adran dai yn unol ag awgrymiadau Llywodraeth Cymru, a oedd yn adlewyrchu’r sefyllfa â Covid,” meddai.
“Doedden nhw ddim yn gallu gwneud mwy na hynny heb roi pobol eraill mewn risg. Rydyn ni wedi gwneud popeth angenrheidiol o ran hynny.
“Dydy hi ddim yn arferol i blant gael eu holi’n uniongyrchol, dydy hynny ddim yn orfodol o ran cynllunio. Does dim problem eithriadol gyda’r cynllun, nac o ran preifatrwydd chwaith.”
Newid agwedd
Ychwanegodd y pennaeth trafnidiaeth, Paul Carter, y byddai’r gyfnewidfa gobeithio’n annog pobol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru, a fyddai’n lleihau tagfeydd, llygredd aer, a phroblemau parcio yn ei hun.
“Y gwir fater fan hyn yw newid ymddygiad pobol ynghylch teithio,” meddai.
“Mae’n hanfodol felly i sicrhau bod opsiynau trafnidiaeth amgen ar gael. Os ydyn ni’n mynd i newid agwedd pobol, yna bydd hynny’n lliniaru’r effaith ar y rhwydwaith presennol.
“Bydd y cynllun arloesol hwn yn newid yr agenda, a’n annog y newid agwedd hwnnw drwy roi opsiynau i bobol.”
Fe bleidleisiodd chwe chynghorydd o’r pwyllgor cynllunio o blaid rhoi caniatâd, gydag un yn pleidleisio yn erbyn ac un arall yn ymatal.
Mae’r orsaf newydd wedi bod yn uchelgais ers blynyddoedd, ond mae wedi dioddef tipyn o oedi.
Fe gafodd y cyngor ganiatâd cynllunio ar gyfer cynllun tebyg yn 2016, ond fe wnaeth y datblygwyr dynnu allan ar ôl cael problemau gyda’r safle.