Bydd tafarn gymunedol yn Nefyn yn tyfu eu cynnyrch ffres eu hunain yn lleol fel rhan o gynllun newydd i sicrhau cynaliadwyedd.

Mae Tafarn yr Heliwr yng nghanol y dref wedi ailagor ers 2019, ar ôl bod ynghau ers deng mlynedd, wedi i’r perchnogion blaenorol roi’r gorau i redeg y lleoliad poblogaidd.

Yn Ionawr 2018, fe wnaeth grŵp o bobol leol benderfynu y bydden nhw’n ceisio prynu’r adeilad, ac mae’r dafarn nawr yn cael ei rhedeg fel busnes cymunedol dielw.

Ac yn dilyn partneriaeth newydd gydag Ystâd Rhug, byddan nhw’n adeiladu ar yr elfen gymunedol honno ac yn tyfu eu cynnyrch ffres eu hunain i’w ddefnyddio wrth goginio prydau.

Yr ardal yn elwa

Dywed Eifion Davies, sy’n aelod o bwyllgor Tafarn yr Heliwr, mai amcan y gymdeithas yw “bod o fudd i gymuned Nefyn a’r ardal ehangach bob amser”.

“Gan ddatblygu’r dafarn, rydyn ni’n bwriadu lleihau unigrwydd, amddiffyn yr iaith Gymraeg a threftadaeth leol, yn ogystal â darparu swyddi, cyfleusterau twristiaeth, a defnyddio gwasanaethau’r dafarn i elwa’r gymuned ym mhob ffordd bosib,” meddai.

“Yn ein nodau cynaliadwyedd, rydyn ni’n bwriadu lleihau taith y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio yn y prydau rydyn ni’n eu coginio.”

Y darn o dir ger Stryd y Plas

Byddan nhw’n defnyddio darn o dir, sydd yn cael ei osod gan Ystâd Rhug, i dyfu llysiau a ffrwythau ac ati, gan gynnig cyfleoedd i bobol leol wirfoddoli.

“Bydd yr ardd yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned wirfoddoli ac yn ofod i’w ddefnyddio a’i fwynhau,” meddai Eifion Davies wedyn.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu’r elfen hon o’r prosiect ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Arglwydd Newborough am weithio gyda ni, a darparu’r cytundeb tenantiaeth hirdymor hwn.”

‘Canolbwynt i sawl un’

Yr Arglwydd Newborough yw perchennog Ystâd Rhug, sydd wedi ei leoli ger Corwen yn Sir Ddinbych.

Mae fferm a siop yr ystâd honno wedi ymrwymo i gynhyrchu nwyddau organig a chadw at arferion cynaliadwy o ddydd i ddydd.

“Rwyf wrth fy modd yn gweld hyn yn dod at ei gilydd,” meddai Emma Story, Rheolwr Ystâd Rhug.

“Mae meddwl creadigol Eifion wedi sbarduno rhywbeth rwy’n gobeithio bydd yn llwyddiant mawr. Bydd yn estyniad o beth mae’r dafarn yn ei gynnig, yn lleihau taith bwyd, a’n ganolbwynt i sawl un.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynnyrch yn ymddangos ar y fwydlen yn Nhafarn yr Heliwr,”