Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei hagor yn swyddogol heddiw (dydd Gwener, 10 Rhagfyr) gan y Tywysog Charles.
Mae’r ganolfan gwerth £2m ar gampws Penglais yn rhan allweddol o Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru.
Cafodd ei datblygu ar y cyd â’r Coleg Milfeddygol Brenhinol, ac fe gafodd £500,000 ei godi gan gyn-fyfyrwyr y Brifysgol.
Bydd myfyrwyr yn treulio dwy flynedd gyntaf y cwrs yn Aberystwyth, cyn astudio yn y Coleg Brenhinol yn Swydd Hertford am dair blynedd, a bydd modd iddyn nhw astudio rhannau o’r cwrs drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg hefyd.
‘Atgofion arbennig iawn’
Cafodd y Tywysog, a astudiodd y Gymraeg yn y Brifysgol yn 1969, ei dywys o gwmpas y cyfleusterau newydd, a siarad gyda rhai o’r myfyrwyr newydd.
Fe wnaeth o hefyd ddadorchuddio plac arbennig ar y dydd i nodi agoriad yr adeilad, a llofnodi’r llyfr ymwelwyr y gwnaeth ei lofnodi pan oedd yn fyfyriwr yno 52 mlynedd yn ôl.
Bu’r Tywysog yn hel atgofion am yr amser hwnnw.
“Mae gen i atgofion arbennig iawn o’r amser hwnnw a ffeindio fy ffordd o amgylch Aberystwyth yn gyffredinol,” meddai.
“Wedi i mi weld yr hyn y mae’r ysgol wedi’i wneud yma, mae wedi creu cymaint o argraff arna i, ac rwy’n falch iawn fy mod wedi chwarae rhan fach iawn wrth helpu i’w hagor.
“Rwy’n gobeithio y caiff [y myfyrwyr] lwyddiant mawr yn y dyfodol a bydd yr ysgol yn ffynnu.”
‘Darn newydd hollbwysig i’r jig-so’
Cafodd y Tywysog ei dywys o gwmpas yr ysgol newydd gan Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd a’r Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, ymysg eraill.
“Braint oedd cael ymuno â myfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a’r gwesteion arbennig yn yr agoriad swyddogol heddiw,” meddai Elizabeth Treasure.
“Mae amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod.
“Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn ychwanegu darn newydd hollbwysig i’r jig-so, un a fydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.
“Bydd ein myfyrwyr yn mwynhau’r gorau o ddau fyd mewn prifysgolion sydd yn cynnig rhagoriaeth academaidd ac enw da am brofiad myfyrwyr.
“Hoffwn i ddiolch i bawb, gan gynnwys ein rhoddwyr hael iawn, sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru. Rydyn ni’n falch o allu cydnabod cyfraniad allweddol ein cyn-fyfyrwyr i’r Ysgol newydd gyda phlac yn yr adeilad yn ogystal.”
Dros y ffin i Bowys
Bu’r Tywysog Charles hefyd yn ymweld â siop Hafod Hardware yn Rhaeadr brynhawn dydd Gwener, 10 Rhagfyr, i ddathlu busnesau annibynnol a dangos cefnogaeth i’r stryd fawr leol.
Mae’r siop yn adnabyddus am greu hysbyseb Nadolig a aeth yn feiral yn 2019, gyda thair miliwn o bobol yn ei wylio ar YouTube.
Y siop offer yw un o’r busnesau hynaf yn Rhaeadr, gan ddyddio’n ôl i 1895, ac mae’n un o leoliadau mwyaf gwerthfawr y dref.