Bydd gritwyr yn Sir Gâr yn streicio yn gynnar yn y flwyddyn newydd ar ôl i’r cyngor dorri addewidion, yn ôl undeb y GMB.

Mae dros 50 o weithwyr gritio’r hewlydd am gymryd rhan yn y streic, ar ôl pleidlais unfrydol ynglŷn â gweithredu diwydiannol.

Gall hyn effeithio ar holl rwydwaith ffyrdd y sir, gan fod gritwyr o undebau eraill hefyd yn ystyried streicio.

Bydd dyddiadau streicio yn cael eu penderfynu ar ôl i undebau Unison a Unite, sydd â thua 20 aelod rhyngddyn nhw, gynnal pleidleisiau dros weithredu yn yr wythnosau nesaf.

Mae’r anghydfod yn deillio o gytundeb a gafodd ei arwyddo rhwng yr undeb a’r awdurdod ddwy flynedd yn ôl a oedd yn rhestru nifer o addewidion i’r gweithwyr.

Ond ar ôl i adran briffyrdd y Cyngor dorri rhai o addewidion y cytundeb hwnnw, mae aelodau’r undebau yn anhapus.

‘Ergyd drom’

Fe wnaeth 90% o aelodau GMB bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol ar ôl i’r Cyngor fethu ag anrhydeddu’r cytundeb, meddai’r undeb.

Roedd Peter Hill, trefnydd rhanbarthol undeb y GMB, yn dweud bod yr awdurdod yn “benderfynol” o ffraeo gyda’r gweithwyr.

“Mae’n siomedig iawn i’n haelodau ein bod ni’n cael ein hunain yn y sefyllfa hon eto,” meddai.

“Fe wnaethon ni arwyddo cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin ddwy flynedd yn ôl, a’r cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw eu bod nhw’n anrhydeddu’r hyn y gwnaethon nhw gytuno ag o.

“Dydy cadw at y cytundeb ddim yn costio dim byd i’r awdurdod. Rydyn ni wedi cyflwyno nifer o awgrymiadau cadarnhaol ar gyfer sut mae modd datrys yr anghydfod.

“Ond er gwaethaf misoedd o sgyrsiau, mae’r awdurdod yn benderfynol o anghytuno gyda’n haelodau.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein haelodau wedi gweithio’n ffyddlon trwy gydol y pandemig, ac mae hyn yn ergyd drom iddyn nhw.

“Yn Sir Gaerfyrddin nawr mae gwir berygl o orfod cau’r holl rwydwaith ffyrdd y gaeaf hwn ar ôl i’r cyngor dorri ei addewid i weithwyr.”

Ymateb Cyngor Sir Gâr

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Rydym yn gwrthod y sylwadau a wnaed gan GMB ynglŷn â’r cytundeb – mae ein staff yn cael eu talu yn unol â’r cyfraddau ar gyfer dyletswyddau a nodir yn y cyd-gytundeb.

“Rydym yn parhau â’n sgyrsiau ag undebau llafur a’n staff ar y mater hwn, ac er ein bod am osgoi gweithredu diwydiannol mae gennym fesurau wrth gefn ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd sy’n teithio os bydd gweithredu diwydiannol yn digwydd.”