Bydd cartrefi preswyl bychan yn cael eu sefydlu yng Ngheredigion ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth.
Fe wnaeth cabinet y Cyngor gymeradwyo’r cynlluniau er mwyn sicrhau bod plant sydd ag anghenion ymddygiad neu emosiynau cymhleth yn gallu derbyn gofal yn y sir yn hytrach na theithio i siroedd eraill.
Roedd trafodaethau ynghylch agor canolfan ranbarthol fwy o faint wedi bod i ddechrau, ac fe gafodd y cynllun hwnnw ei gymeradwyo gan y cabinet ym mis Mehefin eleni.
Ond mae’r cynlluniau newydd yn parhau i fod yn “ddatblygiad gwych”, yn ôl y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd y Cyngor, fu’n siarad mewn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 7).
Cynlluniau
Mae’r model newydd am weld cartrefi bychain yn cael eu sefydlu fel “hafan ddiogel” ar gyfer dau neu dri o blant yn unig, fel bod modd creu awyrgylch normal iddyn nhw, ac i sicrhau eu bod nhw’n gallu aros yn eu hysgolion presennol ac aros yn agos i’w teuluoedd a’r gymuned.
“Mae Cyngor Sir Ceredigion ynghyd â llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y teuluoedd sydd angen cefnogaeth ac yn benodol cynnydd yn nifer y plant a’r bobl ifanc sydd angen gofal,” meddai’r Cynghorydd Alun Williams.
Ychwanega fod symud plant sydd angen cefnogaeth i leoliadau tu allan i’r sir yn achosi gofid iddyn nhw, a bod costau sylweddol yn deillio o hynny.
Mae’r Cynghorydd Ceredig Davies, arweinydd yr wrthblaid, yn dweud ei bod hi’n “dorcalonnus bod pobol ifanc wedi gorfod gadael y sir, a gadael Cymru mewn rhai achosion”, a’u bod nhw “wedi methu â rheoli hynny fel sir”.
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod hwn “yn gam sydd rhaid iddyn nhw ei gymryd,” gyda’r bwriad i ddarparu mwy nag un tŷ yn y dyfodol.
Cafodd y tŷ hwnnw ei gymeradwyo yn ystod y cyfarfod, yn ogystal â chyllid i’r cynllun.