Mae’n debyg mai cynnig Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2025 ydi’r cyd-ffefryn ar hyn o bryd, ac y bydd lle amlwg i bwysigrwydd y Gymraeg yn y cais.

Ynghyd â chynnig ar y cyd Armagh, Banbridge a Chraigavon yng Ngogledd Iwerddon, mae’r bwcis yn dweud mai’r ddau gynnig hynny yw’r mwyaf tebygol o’r rhestr hir i olynu Coventry, y Ddinas Diwylliant presennol.

Ym mis Hydref, daeth cyhoeddiad fod Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr hir o wyth cynnig, gyda phedwar cais arall o Gymru yn colli allan.

Bydd rhestr fer y gystadleuaeth yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth, gyda’r enillydd yn cael ei goroni ym mis Mai.

Dryswch?

Mae arweinwyr grŵp y Ceidwadwyr ar Gyngor Wrecsam yn bryderus y bydd dryswch yn cael ei achosi gyda chais ar wahân i gael statws dinas i’r dref.

Yn wahanol i’r cais Dinas Diwylliant, mae’r cais arall wedi profi’n eithaf dadleuol ymysg nifer o drigolion lleol.

Wrth gyfeirio at y dryswch tu ôl i’r ddau gais, dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones nad oes angen i Wrecsam fod yn ddinas er mwyn bod yn Ddinas Diwylliant.

“Rydyn ni wedi ei gwneud hi’n glir bod y ddau yn llwyr ac yn hollol ar wahân,” meddai yn gynharach yr wythnos hon.

“Does dim cysylltiad rhwng y ddau. Yr unig nodwedd gyffredin yw’r gair ‘dinas’, ond heblaw am hynny, does dim cysylltiad na pherthynas.

“Rydyn ni’n ymwybodol y byddai statws dinas yn ddadleuol, ond mae’r ffaith fod pawb ar y cyngor yn cefnogi’r cais (i fod yn Ddinas Diwylliant) yn dystiolaeth fod hynny’n beth roedd pawb yn Wrecsam eisiau ei weld.”

‘Buddion sylweddol’

“Dydw i ddim yn ceisio temtio ffawd, ond os ydych chi’n edrych ar yr ods, rydyn ni’n gyd-ffefryn, sy’n arddangos cryfder y cais,” meddai’r Cynghorydd Hugh Jones.

“Byddai yna fuddion sylweddol i Wrecsam pe baen ni’n llwyddo, gan fod Coventry wedi elwa o £15.5m, ac yn Hull, cafodd 800 o swyddi eu creu, yn ogystal â buddion sylweddol yn ariannol, i dwristiaeth ac i fusnes.”

Y Cae Ras, lleoliad gêm ryngwladol gyntaf Cymru yn 1877

Nododd y byddai un o lysenwau Wrecsam – ‘cartref ysbrydol pêl-droed Cymru’ – yn cael ei ddefnyddio i gryfhau’r cais, yn ogystal ag arwyddocâd diwylliannol yr iaith Gymraeg.

Hefyd, dywedodd fod y cais wedi ei anelu at y sir gyfan, sy’n cynnwys Traphont Pontcysyllte a phentref Rhosllannerchrugog.

Mae’r Cyngor wedi derbyn £40,000 i ddatblygu’r cais ymhellach, gyda disgwyl i aelodau ganiatáu darparu £50,000 o arian yr awdurdod i gynnal digwyddiad yn ymwneud â’r cais.

Bydd disgwyl i aelodau’r Pwyllgor Gwaith gefnogi hynny pan fyddan nhw’n cyfarfod ddydd Mawrth nesaf (7 Rhagfyr).