Mae bron i 3,500 o blant yng Ngheredigion yn byw mewn tlodi yn ôl asesiad o lesiant yn y sir.

Mae’n debyg mai dim ond un awdurdod lleol arall yng Nghymru sydd wedi gweld cynnydd uwch ers 2014-15, gyda’r adroddiad yn nodi ei fod yn “fater rhanbarthol allweddol.”

Hefyd, roedd “cynnydd sylweddol” yn nifer y plant oedd angen eu diogelu rhag niwed yn y sir, gyda dros 100 achos rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin eleni.

Tlodi

Nododd yr asesiad bod tlodi ymysg aelwydydd sydd mewn gwaith yn cynyddu, yn enwedig yn ardaloedd Aberystwyth, Aberteifi ac Aber-porth.

Mewn cyfarfod diweddar, dywedodd y Cynghorydd Mark Strong (Plaid Cymru) bod yna gamsyniad bod tref Aberystwyth yn llewyrchus, ond bod hynny ddim wastad yn wir.

Ychwanegodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd (Plaid Cymru) bod llawer o bobol hŷn mewn risg o lanio mewn tlodi wrth i brisiau gynyddu a chyflogau yn aros yr un fath.

Roedd gofyn i awdurdodau lleol gynnal asesiad o lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu sir, fel bod modd cyhoeddi cynllun ar gyfer 2023 i 2028.

Mae’r darn yn archwilio’r holl oedrannau a phob math o themâu sy’n ymwneud â byw a gweithio yng Ngheredigion.

“Mae tlodi yn parhau i fod yn un o’r heriau mwyaf yn y sir,” meddai’r asesiad.

“Cyflogau ac incwm isel, diffyg gofal plant fforddiadwy, gostyngiad Credyd Cynhwysol a chostau tai uchel ac anfforddiadwy, sydd fwyaf cyfrifol am dlodi yng Ngheredigion, ”dywed yr asesiad.

Diogelu plant

Mewn cyfarfod pwyllgor arall heddiw (dydd Mercher, 1 Rhagfyr), fe wnaeth cynghorwyr ganfod bod “cynnydd sylweddol” yn yr atgyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol ers i ysgolion ailagor.

Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin eleni, roedd 116 achos o blant yn cael eu diogelu, gyda’r ffigwr ond yn 17 yn y chwarter blaenorol rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams (Plaid Cymru) ei bod hi’n “gyfnod andros o anodd ar y foment” gyda nifer y cofnodion yn “adlamu” yn dilyn y cyfnod clo.

Mae’n debyg bod swyddogion heb weld lefelau mor uchel â hyn o’r blaen a bod y sefyllfa’n cael ei “efelychu” ledled Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies (Plaid Cymru) fod yr awdurdod yn “ddibynnol” ar staff ysgolion wrth gofnodi achosion o gam-drin plant.

Y prif fathau o achosion sy’n cael eu cofnodi yw cyhuddiadau o gam-drin rhywiol neu gorfforol, sydd dro ar ôl tro ar ben y rhestr.