Mae ymgais teulu ym Môn i gadw eu stondin laeth ar agor wedi cael ei gefnogi gan gynghorwyr yr ynys.
Roedd swyddogion wedi cyflwyno adroddiad i bwyllgor cynllunio’r cyngor yn awgrymu gwrthod cynnig i gadw’r cwt pren yn Neuadd ger Cemaes.
Fe wnaeth y perchnogion, y ffermwyr Gareth a Mari Jones, ddechrau menter Llefrith Nant ym mis Gorffennaf, ac fe wnaeth 252 o bobol ysgrifennu llythyrau a dros 3,000 o bobol lofnodi deiseb yn galw ar y cyngor i gadw’r stondin.
Roedd Cyngor Cymuned Llanbadrig hefyd wedi cefnogi’r fenter, sy’n darparu llefrith sy’n cael ei gynhyrchu ar eu fferm gyfagos yn Nant y Frân.
Adroddiad
Roedd adroddiad y swyddogion wedi codi sawl pryder am bolisïau cynllunio’n cael eu torri, gan ddweud y byddai’r cynllun yn arwain at “ddatblygiad annerbyniol ac anghyfiawn lleoliad manwerthu yng nghefn gwlad.”
Ond yn y cyfarfod heddiw (dydd Mercher, 1 Rhagfyr), fe wnaeth nifer o gynghorwyr fynegi eu gwrthwynebiad i’r datganiad uchod.
“Fydd y cwt bach hwn ddim yn cael unrhyw effaith ar yr amgylchedd lleol,” meddai’r Cynghorydd Aled Morris Jones.
“Mae’n mynd i sicrhau darpariaeth leol a diwallu angen lleol, gan greu swydd ar y fferm deuluol.
“Cynaliadwyedd lleol yw hyn, ac rwy’n gofyn i chi lynu at y penderfyniad a gafodd ei wneud y mis diwethaf a chefnogi’r cais hwn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Eric Wyn Jones y dylai swyddogion “wrando ar lais y bobol” yn dilyn y gefnogaeth gref i’r fenter.
Fe wnaeth y Cynghorwyr gefnogi’n unfrydol y cais i gadw’r fenter, ond fe wnaethon nhw roi amodau mewn lle, gan gynnwys rheolaeth dros yr eitemau sy’n cael eu gwerthu yn y siop i sicrhau ei bod yn cadw ysbryd siop fferm.
Hefyd, dywedodd y cynghorwyr bod y stondin ond yn cael caniatâd i aros ar agor cyn belled â mai Gareth Jones sy’n berchen a’n gweithredu’r safle.
Y stondin
Wrth siarad cyn y penderfyniad, dywedodd Gareth Jones eu bod nhw wedi agor stondin heb ganiatad cynllunio gan fod brys arnyn nhw i agor erbyn yr haf eleni.
“Fyddai hi ddim wedi bod yn ymarferol sefydlu siop yng Nghemaes, mae’n anodd dod o hyd i fannau parcio yn y gaeaf ond yn amhosibl yn yr haf,” meddai.
“Mae’r adborth wedi bod yn gyson gadarnhaol, gyda chwsmeriaid yn dweud bod prynu’n uniongyrchol o’r fferm yn rhan o’r profiad.”
- Gallwch ddarllen am boblogrwydd peiriannau gwerthu llaeth yn sgil y pandemig yn Golwg yr wythnos hon, isod.