Mewn cyfarfod yr wythnos hon, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod buddsoddi £1.5m i lanhau a thacluso cymunedau yn y sir.
Y gobaith yw y bydd yr arian yn gallu cael ei wario ar gyflogi swyddogion a buddsoddi mewn cerbydau ac offer wrth ymateb i bryderon trigolion am ardaloedd blêr.
Pe bai’n cael ei gymeradwyo, bydd cynllun gweithredu ymarferol yn cael ei roi yn ei le i fynd i’r afael ag ardaloedd problemus, yn ogystal â thacluso ffyrdd a strydoedd.
Balchder cymunedol
Yn ôl y Cynghorydd Catrin Wager, sydd â chyfrifoldeb am y gwaith, byddai’r cynllun Cymunedau Glân a Thaclus yn rhoi balchder a hygrededd i gymunedau.
“Mae ymdeimlad o falchder cymunedol yn rhoi hwb i drigolion, yn rhoi pwrpas a ffocws ar weithgareddau dyddiol pobl wrth fynd am dro, gerdded i’r ysgol neu i’r gwaith neu fynd allan i siopa bwyd,” meddai.
“Mae’n bwnc pwysig, mae’n bwnc sy’n flaengar ym meddyliau cymunedau ac mae’n bwnc sy’n effeithio ar fywydau pobl yn ddyddiol.
“Fy ngobaith i yw y bydd trigolion yn teimlo bod pryd a gwedd eu hardaloedd yn gwella, bod strydoedd, pentrefi a threfi yn twtio, a gwaith yn digwydd i wella ansawdd eu hamgylchedd wrth fynd i’r afael ag ardaloedd problemus.
“Trwy gydweithio â chynghorwyr cymuned, tref a dinas yn ogystal â phartneriaid a sefydliadau lleol, bydd ein gwaith ni fel cynghorwyr sir hefyd yn allweddol er mwyn cyfleu lle mae angen amser ac adnoddau i glirio, twtio a glanhau a rhoi dos go iawn o ofal i wardiau cymunedol.
“Wedi gwrando ar yr hyn sy’n bwysig i’n cymunedau, dyma fynd ati o’r newydd i sicrhau bod buddsoddiad mewn lle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl leol yn eu cymunedau.
“Mae cyfnod Covid-19 wedi bod yn un anodd i bobl leol, a diffyg gweithredu mewn ardaloedd oherwydd cyfyngiadau.
“Y gobaith nawr yw mynd ati gydag angerdd i ail afael a gwneud gwelliannau.”
Bydd y cais i awdurdodi’r buddsoddiad ariannol yn cael ei drafod gan gabinet Cyngor Gwynedd yfory (dydd Mawrth, Tachwedd 30).