Mae Cyngor Gwynedd wedi gwrthod cais cynllunio ar gyfer cyrchfan gwyliau gwerth £60m ar gyrion tref Caernarfon.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr heddiw (dydd Llun, Tachwedd 22) o blaid gwrthod y cynllun o wyth i dri, gydag un aelod yn ymatal.
Bwriad y datblygwr, Maybrook Investments, oedd troi safle hen ffatri Ferodo a Phlas Brereton yn llety gwyliau a pharc dŵr, gan gynnwys bwytai, safle bowlio deg, sba a siopau.
Roedd y Cynghorydd Owain Williams wedi cynnig oedi’r penderfyniad, gan nodi y gallai cynllun diwygiedig ddod â buddion economaidd, ond fe gafodd y cynnig hwnnw ei wrthod.
Dywedodd y datblygwyr y byddai hyd at 80 o swyddi yn cael eu creu fel rhan o’r cynllun, gyda £1.28m yn cael ei gynhyrchu i’r economi leol erbyn 2024.
Cafodd y cynllun ei wrthod oherwydd y pryderon am y Gymraeg ac oherwydd effeithiau gweledol ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol leol.
Mae rhai aelodau o’r cyhoedd, yn ogystal â Chyngor Tref Caernarfon, hefyd wedi mynegi anfodlonrwydd gyda’r cynllun, gan restru’r iaith ac effeithiau llifogydd posib o Afon Menai fel rhesymau.
Ymateb i’r cais
Mae’r Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones yn credu bod y cais yn “ddiffygiol ymhob ffordd,” ac nad oedd “dim dewis” ganddyn nhw ond gwrthod.
Roedd nifer o adrannau’r Cyngor wedi lleisio pryderon, gan gynnwys adran y Gymraeg, a oedd yn nodi y byddai’n “cyfrannu at sefydlogrwydd yr iaith yn yr ardal.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffiths nad oedd y cais a oedd yn cael ei gynnig yn addas, ac roedd yn pryderu am yr effaith ar lwybr hamdden Lôn Las Menai, sydd yn mynd heibio safle arfaethedig y cyrchfan gwyliau.
Ar y llaw arall, roedd y Cynghorydd Dilwyn Lloyd yn credu y byddai gwrthod y cais yn “anghymwynas” â phobol leol, gan y byddai swyddi a chyfleoedd economaidd posib yn cael eu colli.
Fe gafodd ei nodi yn y cais gan Maybrook Investments fod “gwir angen” llety gwyliau yn yr ardal er mwyn cynyddu’r economi’n lleol.
“Mae Maybrook Investments eisiau datblygu’r ddau safle, ac rydym yn gweld y gwerth y bydd hynny’n ei gael yn lleol,” meddai’r cwmni.
“Mae hi’r un mor bwysig fod Cyngor Gwynedd am weld y ddau safle yn datblygu i fod yn brosiectau cynaliadwy ac wedi eu cynllunio’n dda, sydd am ffurfio mynedfa ddeniadol i Gaernarfon.”