Mae penderfyniad ar far newydd i gymryd lle’r Castle Emporium ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd i’w ddisgwyl wythnos nesaf.
Roedd Castle Emporium yn gartref i nifer o fusnesau annibynnol bach y ddinas, yn cynnwys siopau Shelflife, Cardiff Skateboard Club a Tropigaz.
Maen nhw bellach wedi gorfod symud i fasnachu yn rhywle arall, ar ôl cael eu gorfodi i adael gan landlord yr adeilad ym mis Medi.
Y bwriad yw troi’r adeilad yn dafarn i werthu cwrw crefft y bragwr annibynnol, Mad Dog Brewery, sydd wedi ei leoli yn Penperlleni ger Pontypwl.
Bydd is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Caerdydd yn penderfynu a ydyn nhw am gymeradwyo’r cais ddydd Gwener, 26 Tachwedd.
Busnes teuluol
Cafodd cwmni Mad Dog ei sefydlu yn 2014, a buon nhw mewn trafferthion ariannol ar ddechrau’r flwyddyn.
Yn dilyn hynny, fe wnaeth y bragwr gael ei brynu ym mis Mai eleni gan dad a mab, Tim a Tom Waters, sydd yn gobeithio ehangu’r cwmni.
“Mae’r busnes teuluol yn bragu cwrw crefft safon uchel,” meddai Tim.
“Bydd bwyd yn cael ei gynnig yn yr ystafell tap i gyd-fynd â’r cwrw hyn, a bydd digwyddiadau arbennig a theithiau o’r bragdy yno hefyd.”
Does dim bwriad i werthu cwrw yn y dafarn ar ôl 11yh.
“Ein bwriad yw cynnig amgylchedd teuluol heb drwydded i yfed yn hwyr yn y nos,” ychwanegodd Tim.
“Pe bai’n cael ei gymeradwyo, bydd y drwydded yn diogelu pum swydd a chreu 10 rôl pellach o fewn y datblygiad.”