Mae caffi newydd arloesol, sy’n ailddosbarthu stoc dros ben gan archfarchnadoedd, wedi agor yn ninas Bangor yng Ngwynedd.
Bydd caffi Bwyd Da Bangor ar y Stryd Fawr hefyd yn cynnig hyfforddiant i weithwyr sy’n cael help gan ganolfan adferiad Penrhyn House, neu rai sy’n byw mewn llety â chymorth yn y ddinas.
Byddan nhw’n derbyn cefnogaeth a chymwysterau gan Goleg Menai i gael mynediad i gyflogaeth hirdymor.
Mae’r fenter hefyd yn mynd i’r afael â nifer o heriau eraill, gan gynnwys lleihau ôl troed carbon, lleddfu tlodi bwyd, a chyfrannu at adfywiad economaidd canol dinas Bangor.
Fe gafodd y prosiect gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth Steve Morgan, yn ogystal â Thai Gogledd Cymru ac Adra (Tai) Cyfyngedig.
Cyfle
Dywedodd James Deakin, Rheolwr a Sylfaenydd Penrhyn House, fod y caffi’n gyfle ardderchog i unigolion sy’n gwella o ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.
“Mae pawb yn Penrhyn House a chymunedau Gogledd Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect arloesol a chydweithredol hwn,” meddai.
“Trwy Bwyd Da, rydym bellach yn gallu helpu i fynd i’r afael â materion tlodi bwyd yn ein cymuned leol ehangach.
“Rydym yn gallu gyrru agenda ‘wyrddach’ sy’n agos at ein calonnau ninnau a hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i unigolion sy’n gwella ar ôl bod yn gaeth.
“Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchiad go-iawn o’r balchder sydd gennym yn ein cymuned a’n gobaith yw y gall ddod yn ganolbwynt ar gyfer cerddoriaeth, y celfyddydau, tyfu bwyd ac ati – mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.”
Ysbrydoliaeth
Bu’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, draw yn yr agoriad swyddogol.
“Roeddwn i mor hapus i ymweld â Bwyd Da Bangor i weld y lleoliad gwych yma,” meddai.
“Mae’r egwyddorion y tu ôl i’r prosiect hwn wir yn ysbrydoliaeth, o’r rhaglen rhannu bwyd, lleihau gwastraff bwyd a defnyddio cynnyrch lleol, i’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i nifer o’r unigolion sy’n derbyn cefnogaeth ein timau digartrefedd.
“Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ac argyfwng tai yma yng Ngwynedd, ac mae Penrhyn House a Bwyd Da Bangor yn gwneud gwaith cadarnhaol i fynd i’r afael â’r materion hynny ar lefel leol sy’n ysbrydoliaeth i ni i gyd.
“Rwy’n dymuno pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan yn y fenter newydd gyffrous yma.”
Mae Bwyd Da Bangor ar agor ar gyfer busnes o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng wyth y bore a phump y pnawn.