Mae gŵr a gwraig a gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn dweud bod angen gwneud mwy i amddiffyn trigolion rhag dŵr.

Mae Colin Marriott, sy’n 80 oed, a’i wraig, Carol, wedi byw yn Roe Parc yn Llanelwy ers 50 mlynedd, ond naw mlynedd yn ôl, fe gafodd eu cartref ei ddifrodi ar ôl i ddŵr orlifo o afon Elwy.

Roedd y cwpl ar wyliau yn Dubai ym mis Tachwedd 2012, ac roedden nhw’n gwylio’r golygfeydd ar Sky News, gyda 320 o eiddo’n cael eu heffeithio i gyd.

Roedd 54 o’r rheiny yn ardal Roe Parc, sydd lathenni o lannau’r afon.

Fe gafodd y llifogydd eu gwaethygu ar ôl i’r dŵr gyrraedd safle carthffosiaeth cyfagos, gan wasgaru gwastraff dynol a pheryglu iechyd pobol.

Difrod

“Roedd yn hynod o druenus,” meddai Colin Marriott.

“Roedd y tŷ’n drewi. Roedd dŵr yn dal i fod dan y grisiau. Roedd y garej yn llawn dŵr.

“Fe gollon ni luniau, dillad, clybiau golff. Doedd dim siawns o gyfnewid popeth, a’r peth arall oedd fy mod i wedi colli recordiadau o gerddoriaeth roeddwn i wedi eu gwneud.

“Roedd yr yswiriant wedi talu, ond roedd rhai heb eu hyswirio.”

Roedd y difrod i’w cartref wedi costio £110,000, gan orfodi’r cwpl i rentu cartref arall ym Modelwyddan.

Buddsoddi

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gyda’i gilydd i atal llifogydd drwy gryfhau amddiffynfeydd yr afon.

Cafodd y gwaith hwnnw ei gwblhau yn 2018.

Banciau’r Afon Elwy wedi eu cryfhau

Ond yn Chwefror 2020, fe wnaeth dŵr godi o’r afon unwaith eto yn dilyn Storm Ciara.

Dywed Colin fod dŵr wedi cyrraedd cartrefi yn Roe Parc, a bod rhaid defnyddio sachau tywod i’w rwystro rhag mynd i mewn.

“Yn anffodus, fe wnaeth yr afon godi’n uwch na’r disgwyl,” meddai.

“Felly roedd rhaid i breswylwyr ffeindio eu bagiau tywod i’w rwystro ac osgoi llifogydd pellach.

 

“Roedd yr afon yn codi dros ei glannau, a’n llifo i erddi pobol.

“Roedd yn hynod ddychrynllyd. Roedd y dŵr yn frawychus. Roedd yr afon yn llifo’n gyflym iawn, iawn.

“Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi mabwysiadu dull ymarferol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, a hyd y gwelaf i, heb unrhyw reolaeth o gwbl.

“Mae’n ddirgelwch eu bod nhw’n dweud eu bod nhw heb ein gadael ni lawr yn Roe Parc.

“Does dim amheuaeth fod y bagiau tywod hynny wedi eu gosod gan ein trigolion, a heb hynny, bydden ni wedi cael ein gorfodi o’n cartrefi unwaith eto.”

Colin Marriott o flaen yr Afon Elwy

Lleihau effeithiau

Mae Keith Ivens, Rheolwr Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dweud bod y llifogydd y llynedd yn ganlyniad o dywydd eithafol.

“Er i lefelau dŵr godi’n uwch na 2012, doedd y llifogydd mor ddinistriol i eiddo â phryd hynny,” meddai.

“Wrth ystyried y lefelau eithafol, mae ein cynllun rheoli llifogydd yn Llanelwy, a gafodd ei gwblhau yn 2018, wedi gwneud yn dda ac wedi amddiffyn mwyafrif y tai a’r busnesau.

“Er dweud hynny, roedd hwn yn ddigwyddiad truenus ac roedd nifer o dai, llefydd masnachol a pharciau carafanau wedi gweld llifogydd yn anffodus.

“Roedd llawer o’r rhain tu allan yr ardal sy’n cael ei hamddiffyn gan gynllun Llanelwy.

“Mae arbenigwyr hinsawdd yn dweud y bydd digwyddiadau fel hyn yn dod yn fwy cyffredin, felly mae buddsoddi mewn amddiffynfeydd cadarn a’u cynnal wastad wrth galon ein strategaeth i atal llifogydd.

“Ond er bod amddiffynfeydd yn lleihau’r risg o lifogydd i filoedd o gartrefi ledled y wlad, dydyn nhw’n methu ag amddiffyn pawb o hyd.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid, ac awdurdodau eraill i wella dealltwriaeth a rheoli llifogydd yng nghymunedau yn yr ardal hon.”