Mae cynllun i adnewyddu glan y môr Aberystwyth wedi derbyn pecyn o fuddsoddiad yn dilyn cyhoeddiad y gyllideb ddoe (dydd Iau, Hydref 27).
Bydd yr arian yn cael ei wario ar adfywio Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth, yn ogystal â’r harbwr a’r promenâd yn y dref.
Fe wnaeth Cyngor Ceredigion groesawu’r cyhoeddiad gan Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys, a bydd y cyllid yn cael ei ddarparu o Gronfa Codi’r Gwastad y Deyrnas Unedig.
Roedd y Cyngor wedi cyflwyno cais am arian ym mis Mehefin, yn dilyn mewnbwn gan randdeiliaid a phartneriaid lleol, ac maen nhw’n credu y bydd yr arian yn hwb mawr i’r economi’n lleol.
‘Llawer yn digwydd yng Ngheredigion’
Mae’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, yn croesawu’r cyhoeddiad.
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein heconomi leol,” meddai.
“Bydd yn helpu i wella dyheadau hirdymor Aberystwyth a chanol y dref trwy sicrhau buddsoddiad mewn seilwaith economaidd ac asedau a fydd yn helpu i lywio cyfleoedd am swyddi, sgiliau, buddsoddiad mewnol a hamdden.
“Rhaid hefyd diolch i’n holl bartneriaid a’r gymuned leol am eu holl ymdrech a’u cefnogaeth wrth sicrhau fod y cynnig yn gryf ac, yn y pendraw, yn llwyddiannus.
“Ochr yn ochr â datblygiadau posibl eraill yn y sir a ledled Canolbarth Cymru gyda Bargen Dwf Canolbarth Cymru, mae yna lawer yn digwydd yng Ngheredigion.
“Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Llywodraeth a rhanddeiliaid ar bob lefel i wireddu gwir botensial y buddsoddiad hwn.”
‘Cam pwysig arall’
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn arian ar gyfer gwneud gwaith ar adeilad yr Hen Goleg.
Dr Rhodri Llwyd Morgan yw Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol y Brifysgol.
“Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw i’w groesawu’n fawr iawn ac yn newyddion da iawn i Aberystwyth a Cheredigion,” meddai.
“Mae hefyd yn gam pwysig arall tuag at wireddu’r weledigaeth i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan ddiwylliannol fyrlymus sydd yn cynnig adnoddau rhagorol i’r Brifysgol, y gymuned leol ac ymwelwyr i’r ardal.”