Mae prosiect newydd yng Nghaernarfon yn chwilio am grefftwyr a siopau i rentu unedau.
Mae lês wedi cael ei gytuno ar dros 50% o’r 19 o unedau bellach ar y safle newydd ar lannau’r afon Seiont ger y castell hanesyddol.
Mae’r Aelod o’r Senedd Siân Gwenllian wedi disgrifio ailddatblygiad y Cei Llechi yng Nghaernarfon fel un “amserol” wrth iddi ymweld â’r safle am y tro cyntaf.
Roedd hi’n dweud y byddai’r safle yn chwarae rhan yn Safle Treftadaeth yr ardaloedd llechi, a gafodd ei ddynodi yn ddiweddar gan UNESCO.
Fe gafodd y prosiect adfywio gwerth £5.8 miliwn ei gwblhau ym mis Awst eleni, ac mae’r safle’n cynnwys 19 o unedau gwaith a manwerthu ar gyfer cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol.
Hufen ia
Ymhlith y rheiny sydd ag unedau yno bellach mae cwmni hufen ia Red Boat, siop melysion Pen Gwyn, yn ogystal ag Oriel y Castell a’r Cwt Celf.
Roedd y gwaith adfywio yn gyfuniad o arian gan y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Cadw a Chyngor Gwynedd, yn ogystal ag arian gan berchnogion y safle Ymddiriedolaeth yr Harbwr.
Roedd yr arian hynny’n rhan o gyllid ehangach gan brosiect adfywio Glannau Caernarfon, sydd hefyd wedi gweld datblygiadau i ganolfan gelfyddydau’r Galeri a gorsaf drenau Caernarfon.
Yn ddiweddar, fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd dros Arfon Siân Gwenllian, yn ogystal â’r Aelod Seneddol Hywel Williams, ymweld â’r safle.
“Mae’r ailddatblygiad gwerth £5.8 miliwn yn amserol, ac yn cyd-fynd â chyhoeddiad UNESCO y bydd ardaloedd llechi Cymru yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd,” meddai Siân Gwenllian.
“Mae’r prosiect wedi bod yn arloesol wrth greu cyfuniad perffaith o’n hanes cyfoethog a’n dyfodol entrepreneuraidd.
“Mae’r gwaith celf a’r bensaernïaeth yn cydnabod arwyddocâd hanesyddol aruthrol yr ardal, fel canolbwynt diwydiannol y byd ar un adeg.
“Mae themâu chwarelyddol a morwrol yn rhedeg drwy’r dyluniad.
“Fe ddysgodd Covid-19 bwysigrwydd y lleol inni, ac mae Cei Llechi Caernarfon yn ddathliad o gynnyrch, creadigrwydd, a thalent lleol.”
Cyffrous
Gwyn Roberts yw Prif Weithredwr Galeri Caernarfon, sy’n gyfrifol am redeg safle’r Cei Llechi o ddydd i ddydd.
Yn ystod yr ymweliad, galwodd Gwyn y prosiect yn “bennod newydd cyffrous yn hanes yr ardal.”
“Mae’n gyfuniad sensitif o hen adeiladau’r safle yn ogystal ag adeiladau newydd o’i gwmpas,” meddai.
“Mae lês wedi cael ei gytuno ar dros 50% o’r 19 uned bellach. Rydym yn parhau i hyrwyddo gweddill yr unedau a hoffem glywed gan wneuthurwyr a hoffai eu sefydlu eu hunain yn Cei Llechi.
“Mae’r ailddatblygiad bellach wedi’i gwblhau a bydd Cei Llechi yn cyfrannu at ddatblygu busnes, creu swyddi, yn ogystal â bod yn atyniad ychwanegol ar gyfer ein cymuned leol ac ymwelwyr.”