Mae disgyblion o ddwy ysgol yng Ngheredigion wedi ennill cystadleuaeth newid hinsawdd a gafodd ei chynnal gan Brifysgol Aberystwyth.

Roedd y gystadleuaeth yn rhan o Ŵyl Ymchwil gyntaf y Brifysgol, a fu’n trafod heriau newid hinsawdd wrth i arweinwyr byd baratoi i ymgynnull yn uwchgynhadledd COP26 fis nesaf.

Fe wnaeth cannoedd o blant ysgol ym mlynyddoedd 5 i 8 gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac roedd gofyn iddyn nhw lunio poster a gwneud cyflwyniad i gyflwyno syniadau ar sut i daclo newid hinsawdd.

Yn dod i’r brig oedd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 o Ysgol Plascrug – Emily Tiley, Ella Worthington, Isabelle Butler, Ovima Vimal – a disgybl o flwyddyn 7 yn Ysgol Bro Pedr, Glesni Rees.

Isabelle Butler ac Ovima Vimal o Ysgol Plascrug

Fel gwobr, bydd y pump ohonyn nhw nawr yn cael taith ar gwch ymchwil y Brifysgol, a bydd eu hanes i’w glywed ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru ddydd Llun nesaf (1 Tachwedd).

Llongyfarchiadau

Fe wnaeth Dr Siân Lloyd-Williams, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Addysg y Brifysgol, longyfarch yr holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.

“Roedd y safon yn uchel iawn gyda llawer o bosteri wedi eu dylunio’n greadigol ac effeithiol,” meddai.

“Yn ogystal, roedd yn amlwg fod y disgyblion wedi cael hwyl wrth ymchwilio i’r pwnc hwn ac roedd llawer o wybodaeth ar gael ar y posteri amrywiol.

“Wrth i arweinwyr rhyngwladol ymgynnull ym Mhrydain i drafod gweithredu byd eang, mae’n hynod o bwysig bod pobl ifanc yng nghanol y drafodaeth a’r ystyriaethau.

“Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu’n planed, ac fel Prifysgol rydym wedi ymrwymo i ymgymryd ag ymchwil sy’n helpu i ddatblygu atebion ar gyfer y byd go iawn.

“Rydyn ni’n gobeithio bod y gystadleuaeth hon wedi codi ymwybyddiaeth ymysg ein pobl ifanc yn lleol o’r heriau sy’n ein hwynebu fel planed.”