Mae ffotograffydd o Aberystwyth yn teithio 100 milltir mewn mis, ar ei sgwter symudol, i godi arian i ganolfan iechyd meddwl.
Canolfan iechyd meddwl gymunedol yn Aberystwyth ydi Gorwelion.
Dywedodd Rose Voon, 37, na fyddai hi “yma heddiw” heb y gwasanaethau iechyd meddwl a’r gefnogaeth sy’n cael eu cynnig gan Gorwelion.
Mae’r ffotograffydd, sy’n hoff o dynnu lluniau o newyddion lleol, stormydd, sêr yn ogystal â gwawrio a machlud yr haul yn gobeithio codi £500.
“Helpu ein gilydd”
“Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef ar ei ben ei hun,” meddai Rose Voon.
“Rwyf wedi goresgyn hunan-niweidio a meddyliau hunanladdol pan rwyf wedi cael fy ngham-drin, fy nhreisio, a’m digalonni’n ddifrifol.
“Mae gen i awtistiaeth, fibromyalgia, PSTD, ac asthma.
“Heb wasanaethau iechyd meddwl a chefnogaeth yn Aberystwyth, fyddwn i ddim yma heddiw.
“Rwy’n gwneud 100 milltir ar fy sgwter symudol i godi arian i Gorwelion.
“Rydym i gyd yn gwaedu’r un gwaed, gadewch i ni roi’r gorau i farnu a helpu ein gilydd.”
Gallwch gyfrannu at achos Rose Voon yn fan hyn https://t.co/5ehK665Oya.