Bydd y gwaith o godi morglawdd newydd yn y Mwmbwls yn dechrau yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Bydd y wal rhwng Sgwâr Oystermouth a Knab Rock yn costio tua £12 miliwn, ac yn amddiffyn tua 120 o adeiladau rhag llifogydd.

Mae’r morglawdd presennol ym Mae Abertawe yn hen ac mewn cyflwr gwael, yn ôl Cyngor Abertawe, a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r arian ar gyfer gwneud y gwelliannau.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Thomas, sy’n gyfrifol am y portffolio amgylchedd, wrth banel craffu bod gan y fenter gefnogaeth frwd yn lleol, ond bod angen ymgynghori pellach.

Risg uchel

Cafodd cynghorwyr wybod mai’r Mwmbwls oedd yr ardal mewn mwyaf o risg o lifogydd, o blith aberoedd cyfagos, ond mae trafodaethau hefyd i amddiffyn aber yr afon Tawe ger y dociau.

Mae tywydd mwy garw a’r ffaith fod lefelau’r môr yn codi yn mynd i roi Abertawe mewn risg o lifogydd difrifol yn y dyfodol.

Yn ôl mapiau a gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf, mae sawl ardal o’r ddinas, yn cynnwys cae chwaraeon Santes Helen, a’r Marina, yn parhau i fod mewn perygl uchel o ddiodde’ llifogydd.

Dechrau’r gwaith

Dywedodd Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y cyngor, bod hon yn “fenter gyffrous iawn,” ac y byddai morglawdd y Mwmbwls yn galluogi gwaith pellach ar hyd y lan.

Ychwanegodd fod posib y bydd y gwaith yn gallu dechrau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth.