Mae Cyngor Sir Merthyr Tudful yn trafod ymgeisio troi’r dref yn ddinas.

Bydd cyfarfod llawn arbennig ddydd Mawrth nesaf, 12 Hydref, er mwyn i gynghorwyr bleidleisio dros wneud ymgais swyddogol am statws dinas.

Fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, bydd cystadleuaeth rhwng trefi gwahanol i ennill anrhydedd dinesig, a gall enw Merthyr fod yn yr het bryd hynny.

Codi’r syniad

Mewn cyfarfod llawn ar 8 Medi, fe wnaeth Dr Jane Croad, sy’n ymchwilydd cymdeithasol ac economaidd, roi cyflwyniad i gynghorwyr yn trafod y posibilrwydd o fynd am statws dinas.

Yn y cyflwyniad, dywedodd sut y byddai dod yn ddinas yn “gwella cydweithrediad rhwng grwpiau, cyfrannu’n gadarnhaol tuag at ddatblygiad, a gwella hyder a disgwyliadau pobol o Ferthyr Tudful”.

Mae’r cyngor yn ystyried ymgeisio er mwyn cydnabod cyfraniad Merthyr Tudful i ffyniant a diogelwch y Deyrnas Unedig a’r byd drwy lo a dur.

Gyda’r gwelliannau i Ffordd Blaenau’r Cymoedd (A465), dywedodd adroddiad y byddai Merthyr yn “bwynt canolog” rhwng Abertawe a Chanolbarth Lloegr, ac y byddai’r statws yn “gwella cysylltiad a dyheadau trefi a phentrefi’r cymoedd cyfagos.”

Cais swyddogol

Mae yna 69 dinas yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd – 51 yn Lloegr, saith yn yr Alban, chwech yng Nghymru, a phump yng Ngogledd Iwerddon.

Ar hyn o bryd, mae naw tref yng Nghymru a Lloegr sy’n ymgeisio yn y gystadleuaeth Anrhydedd Dinesig y Jiwbilî Platinwm – gyda Wrecsam yn un ohonyn nhw.

Rhaid i bob cais gael eu cyflwyno gan awdurdodau lleol erbyn 8 Rhagfyr, 2021, gyda’r cyhoeddiad terfynol yn cael ei wneud ar ddechrau 2022, fwy na thebyg.