Mae datblygwyr wedi cyflwyno cynlluniau newydd sbon ar gyfer adeiladu 84 tŷ mewn pentref yn Sir y Fflint.
Fe gafodd y cynlluniau blaenorol gan Stewart Milne Homes i adeiladu 92 o dai ym Mhentre Cythraul, ger Yr Wyddgrug, eu gwrthod oherwydd pryderon dros ddiffyg gofod agored ac effaith a fyddai wedi cael ar fywyd gwyllt.
Ymysg y pryderon eraill i bobol leol ynglŷn â’r cynlluniau hyn oedd yr effaith bosib yn sgil twf poblogaeth, yn cynnwys mwy o draffig a risg uwch o lifogydd.
Ychwanegodd yr Arolygaeth Gynllunio, a oedd wedi derbyn apêl gan yr ymgeiswyr, bod y cynllun wedi methu â darparu llwybr diogel i blant gyrraedd yr ysgol leol.
Roedd 184 o lythyrau wedi eu gyrru yn gwrthwynebu’r cynlluniau arfaethedig oddi ar Ffordd New Brighton.
Er hynny, mae’r cwmni tai, sy’n un o adeiladwyr tai annibynnol mwyaf y Deyrnas Unedig, wedi cyflwyno cynlluniau newydd ar gyfer llai o dai.
Cais newydd
Roedd datganiad cynllunio’r cais newydd gan Stewart Milne Homes yn honni eu bod wedi ystyried y pryderon yn llawn.
“Cafodd yr apêl ei wrthod oherwydd diffyg tir agored,” meddai’r datganiad.
“I fynd i’r afael â hyn, mae’r cynllun diwygiedig wedi lleihau nifer cyffredinol y cartrefi sy’n cael eu cynnig.
“Mae hyn yn darparu llawer mwy o fannau agored nag sy’n ofynnol yn ôl polisi.
“Mae’n bwysig nodi hefyd bod yr arolygwyr, wrth drafod y llwybr diogel i [Ysgol Gynradd Sychdyn], wedi cytuno â’r cyngor gan fod hwn yn fater y byddai’n hawdd ei ddatrys.
“Mae ymgynghorydd priffyrdd yr ymgeisydd wedi cael trafodaethau cadarnhaol gyda’r swyddog trafnidiaeth ysgol yn y cyngor, ac mae’n ymddangos y byddai cyllido trafnidiaeth ysgol o’r safle i Ysgol Gynradd Sychdyn yn cael ei gefnogi mewn egwyddor.”
Dywedodd y cwmni hefyd y byddai’r datblygiad yn gwella diogelwch ffyrdd, gan gynnwys croesfan i gerddwyr, a chodi lloriau’r tai newydd i sicrhau bod dŵr ddim yn gorlifo.
Fe wnaethon nhw hefyd sicrhau y byddai 30 y cant o’r tai yn rhai fforddiadwy ac ar gyfer teuluoedd neu brynwyr tro cyntaf.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwneud penderfyniad ar y cais newydd maes o law.