Bydd gwasanaeth coffa i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig yn cael ei gynnal y penwythnos hwn.
Doedd dim modd i lawer o deuluoedd gael gwasanaethau dros y ddwy flynedd diwethaf oherwydd cyfyngiadau ar niferoedd.
Mae gwasanaeth Nid Anghofiaf i Byth Mohonot yn gobeithio dod â holl deuluoedd yr ardal oedd yn methu â dod ynghyd.
Bydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn yma (9 Hydref) am hanner dydd yng Nghapel Amlosgfa Bae Colwyn.
Hefyd, mae’r digwyddiad am fod yn ddwyieithog, a’n cynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth a seremoni cynnau ganhwyllau.
Cofio
“Oherwydd y pandemig, cafodd angladdau eu trefnu yn wahanol iawn y llynedd,” meddai Victoria Currie, rheolwr yr amlosgfa a mynwentydd.
“Bu’n rhaid cyfyngu ar niferoedd mewn gwasanaethau ac nid oedd rhai pobl yn gallu bod yn bresennol.
“Roedd arnom ni eisiau rhoi cyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd a chofio.”
Mae 100 o docynnau ar gael ar gyfer y gwasanaeth, a gellir eu harchebu yn swyddfa’r amlosgfa, anfon e-bost at gwasanaethauprofedigaeth@conwy.gov.uk, neu ffonio 01492 577733.