Mae chwech ymgeisydd yn y ras i gymryd lle cynghorydd dadleuol a gynrychiolodd ward yn Wrecsam o wlad arall – 5,000 o filltiroedd i ffwrdd.
Fe wnaeth Andrew Atkinson gamu i lawr o’i swydd fel cynghorydd Ceidwadol ar Gyngor Wrecsam yn ddiweddarach, ar ôl iddo ddod i’r amlwg ei fod ar wyliau teulu ym Mhanama ac yn cynrychioli ei ward Gresffordd o bell.
Atkinson hefyd oedd y prif aelod dros wasanaethau plant ar y pryd, a hynny tra oedd yr adran yn wynebu pryderon difrifol gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Pwysau
Roedd o a’i deulu yn pendroni dros fudo i’r wlad yn barhaol pan arhoson nhw yno yn ystod pandemig Covid-19.
Yn dilyn pwysau sylweddol gan ei etholwyr, fe wnaeth gamu o’r neilltu ar 31 Awst eleni.
Mae chwech o enwau yn yr het i’w olynu fel cynghorydd Gresffordd mewn isetholiad ar ddydd Iau, 28 Hydref, sef:
- Beryl Blackmore (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
- Alan Butterworth (Y Blaid Werdd)
- Aled Canter (Llafur Cymru)
- Charles Dodman (Diwygio DU)
- Jeremy Kent (Ceidwadwyr Cymreig)
- Aimi Waters (Plaid Cymru)
Mae pawb sy’n gymwys yn cael eu hannog i gofrestru i bleidleisio erbyn dydd Mawrth, 12 Hydref.
Gall ceisiadau gael eu gwneud ar-lein.