Mae’r heddlu wedi galw ar y gymuned Asiaidd yng ngogledd Cymru i fod yn wyliadwrus o’u heiddo personol.

Daw hyn yn dilyn digwyddiadau diweddar o ladrata yn targedu gemwaith drud sy’n berchen i deuluoedd o dras Asiaidd ym Mhrydain.

Ddydd Mercher diwethaf (29 Medi), fe gafodd achos ei gofnodi ym Mangor, lle cafodd gwerth £2,000 o emwaith ei ddwyn o dŷ teulu Tseiniaidd rhwng 09:35 a 15:00.

Rhybuddiodd y Ditectif Sarjant Jenna Hughes bod gogledd Cymru, yn enwedig y gogledd ddwyrain, o dan fygythiad gan y math yma o droseddau.

“Nid dychryn yw ein nod, ond rhybuddio’r gymuned Asiaidd i fod yn wyliadwrus o’r duedd hon o droseddau sy’n dod i’r amlwg lle mae gemwaith aur drud yn cael ei dargedu,” meddai.

Targedu

“Er nad ydyn ni wedi derbyn llawer o adroddiadau yn lleol eleni, fel arfer, pan welon ni’r mathau hyn o fyrgleriaethau yn digwydd yn ardaloedd heddlu cyfagos yn y gorffennol, mae ardaloedd yng Ngogledd Cymru, fel arfer yn y dwyrain, hefyd wedi’u targedu.

“Wrth i’r nosweithiau dywyllu yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, rydym hefyd fel arfer yn gweld cynnydd yn y mathau hyn o droseddau byrgleriaeth.

“Mae’n bwysig bod pobl yn ymwybodol o’r troseddau hyn ac i gymryd rhagofal ychwanegol i ofalu am eu eiddo gwerthfawr.”

Cyngor

Y cyngor gan yr heddlu yw cadw eitemau mewn banc neu flwch diogel, rhoi gemwaith ar bolisïau yswiriant cartref, a gwella systemau camerâu cylch cyfyng a larymau lladron os yw hynny’n bosibl.

“Ystyriwch leoliad unrhyw bethau gwerthfawr yn eich cartref, yn enwedig arian parod a gemwaith a gweithiwch gyda’ch cymdogion i gadw llygad ar eiddo eich gilydd,” ychwanegodd.

“Mae cartref sy’n edrych yn wag yn llawer mwy tebygol o gael ei dargedu, felly mae’n werth sicrhau bod eich cartref yn edrych yn brysur.

“Os byddwch yn sylwi ar unrhyw weithgaredd amheus yn ymwneud â’ch cartref neu gyfeiriad gwaith, rwy’n eich annog i roi gwybod amdano trwy 101, neu drwy sgwrs we fyw ar unwaith.”