Bydd Pont yr Aber yng Nghaernarfon yn cael ei chau i gerddwyr am gyfnod o ddydd Llun (Hydref 4).
Mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y bont, gan gynnwys gwasanaethu’r elfennau hydrolig ohoni, ac mae’n edrych fel bod y gwaith am ddod i ben yr wythnos nesaf hefyd.
Cafodd y bont ei hadeiladu yn 1970 i gymryd lle’r bont wreiddiol, a oedd yn dyddio’n ôl i 1900, ac mae trydan yn ei galluogi hi i agor i wneud lle i gychod sy’n teithio i fyny afon Seiont.
Oherwydd natur y bont, mae angen gwaith adfer cyson arni, gyda’r gwasanaethu mwyaf diweddar fis Medi eleni.
“Bydd Pont Aber ar gau i gerddwyr yn ystod yr wythnos yn cychwyn 4 Hydref, 2021 ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gwasanaethu hanfodol,” meddai Olaf Cai Larsen, Cynghorydd dros ward Seiont.
“Bydd y bont yn derbyn bearing newydd yn ogystal â gwasanaethu’r ddau hwrdd cylchdro, hidlo a newid olew a gwasanaethu’r pentyrrau hydrolig a’r pibellau.”
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sydd am gael ei achosi o gau’r bont.