Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon yn edrych ymlaen at “gêm enfawr” yn erbyn Prestatyn yng Nghwpan Cymru heno (24 Medi), gyda’r gic gyntaf am 7:45yh.

Mae’r clwb yn bedwerydd yn y Cymru Premier ar hyn o bryd ar ôl ennill tair, cael un gêm gyfartal a cholli dwy.

Prestatyn yw pencampwyr presennol Cynghrair Gogledd Cymru JD.

Fodd bynnag, chawson nhw ddim dyrchafiad i’r Cymru Premier wedi iddyn nhw ennill Cynghrair y Gogledd y tymor diwethaf, oherwydd covid.

Ar hyn o bryd, mae’r clwb yn ddegfed yng nghynghrair y gogledd ar ôl ennill dwy, cael tair gêm gyfartal a cholli tair yn eu wyth gêm gyntaf.

Bydd modd talu i fynd fewn i’r oval heno gydag arian parod neu gerdyn ar y giât, ond ni fydd tocyn tymor yn caniatau mynediad gan mai gêm gwpan ydi hi.

“Gallaf eich sicrhau y byddan nhw’n chware efo calon a balchder heno ac yn gwneud eu gorau glas i gyrraedd rownd nesaf Cwpan Cymru 2021-22,” meddai’r rheolwr Huw Griffiths mewn datganiad.

“Plîs dowch yn llu i’r Oval heno!”