Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi cynlluniau newydd ar gyfer y Ganolfan Ymchwil Ddigidol.
Byddai’r cynlluniau hynny’n dod ag adnoddau technolegol arloesol, yn ogystal â chysylltiad 5G i’r ardal ehangach.
Cafodd y ganolfan ei datblygu er mwyn ymchwilio i brosesu signal digidol (DSP), sy’n trosi sain, fideo neu dymheredd i mewn i fformat digidol, ac mae wedi dod yn fwyfwy pwysig dros y blynyddoedd diwethaf mewn meysydd fel y diwydiannau modurol, amgylcheddol a meddygol.
Fe gafodd y cynlluniau diweddaraf eu trafod wrth i’r Aelodau o’r Senedd, Jack Sargeant a Carolyn Thomas, ymweld â’r Brifysgol.
Un o’r prosiectau sy’n cael eu crybwyll yw cyflenwi cysylltedd band llydan i 1,300 o dai mewn lleoliadau anghysbell yng ngogledd Cymru.
Byddai hynny’n gweld y ganolfan yn cydweithio â chwmnïau fel Vodafone, ac yn costio £4.1 miliwn i’w gwblhau.
Datblygu Gogledd Cymru
Roedd yr Athro Jianming Tang, cyfarwyddwr gweithredol y ganolfan, yn dweud bydd y gwaith yn y ganolfan yn cael “effaith yn genedlaethol a’n rhyngwladol.”
“Mae’r gwaith fyddwn ni’n gwneud ar y safle yn gweithredu fel glud er mwyn dod â busnesau sy’n arwain y diwydiant ynghyd i weithio ar y cynlluniau hyn,” meddai.
“Fe wnaethon ni fwynhau’r cyfle i arddangos ein gwaith i’n partneriaid busnes a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ehangu’r seilwaith sydd ar waith yn y cyfleuster ymhellach a pharhau i ddatblygu Gogledd Cymru yn ganolbwynt technolegol go iawn.”