Bu’n rhaid gwarchod llai o blant rhag niwed ar ddechrau’r flwyddyn yng Ngheredigion.

Er hynny, mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos cynnydd yn nifer yr oedolion sydd mewn perygl o niwed.

Fe gafodd y data diweddaraf am ddiogelu, sy’n cwmpasu mis Ionawr i fis Mawrth 2021, ei gyflwyno i aelodau pwyllgor craffu’r Cyngor ddydd Mercher (15 Medi).

Diogelu plant

Fe ddatgelodd yr adroddiad i’r pwyllgor bod gostyngiad wedi bod mewn adroddiadau diogelu, gyda 99 achos o’i gymharu â 106 yn yr un cyfnod yn 2020.

Roedd nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant hefyd wedi gostwng yn y cyfnod hwnnw, gyda 17 yn llai o blant wedi eu cofrestru.

Er hynny, maen nhw’n disgwyl y bydd cynnydd eto wrth i ysgolion ailagor.

Diogelu oedolion

Bu cynnydd mewn oedolion sydd mewn perygl, gyda 146 adroddiad rhwng Ionawr a Mawrth 2021, o’i gymharu â 117 yn y chwarter blwyddyn flaenorol.

“Yn ystod y chwarter blwyddyn hwn, rydym wedi derbyn nifer cynyddol o adroddiadau mewn perthynas â phryderon mewn cartrefi gofal ac o ran cefnogaeth gofal cartref,” meddai’r adroddiad.

Roedd chwe achos lle’r oedd angen cynlluniau amddiffyn, pum achos yng nghartref rhywun ac un achos mewn cartref gofal.

Ymhlith yr achosion hyn, roedd un person wedi ei ddiogelu rhag gweithiwr cyflogedig, a dau berson wedi eu diogelu gan berthnasau neu ffrindiau.

“Ailstrwythuro”

Fe wnaeth y pwyllgor bwysleisio ei bod hi’n bwysig bod y materion hyn yn cael eu trin.

Amlygodd Sian Howys, pennaeth gwasanaethau cymdeithasol y Cyngor, fod “cyfnod o ailstrwythuro” ar y gweill i “wneud y defnydd gorau o staff” a bod gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar ffyrdd newydd o fynd i’r afael ag achosion o gam-drin.