Mae cwmni Llety Gwyliau Abersoch wedi “ymddiheuro’n ddiffuant” ar ôl gwneud sylw ar Facebook yn hysbysebu “mynwent fel gardd” fel rhan o atyniad un llety gwyliau.

Fe wnaeth y neges yn hysbysebu Eglwys Aelrhiw ger Rhiw ym Mhen Llŷn arwain at feirniadaeth, gyda phobol yn dweud ei fod yn “gywilydd” ac yn “ddi-chwaeth”.

Wrth ymateb, dywedodd Llety Gwyliau Abersoch ei bod hi’n ddrwg iawn ganddyn nhw am unrhyw amarch y gallai’r sylw fod wedi’i achosi.

Yn y neges, a gafodd ei dileu’n weddol fuan ar ôl cael ei phostio, dywedodd y cwmni: “O’r munud y byddwch chi’n mynd mewn i fynwent yr eglwys, mae yna ymdeimlad bod rhywbeth arbennig am Eglwys Aelrhiw.

“Bydd nodweddion gwreiddiol yn eich croesawu yn yr encil hon o’r ddeunawfed ganrif; y fedyddfaen wreiddiol, to bwaog, arysgrifau yn y golwg, a mynwent fel gardd hyd yn oed!”

Yn ôl gwefan y cwmni, mae’r fynwent dal yn weithredol, gyda “beddi, seddi a golygfeydd pell o’r môr tua Phorth Neigwl”.

“Ymddiheuro’n ddiffuant”

“Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant am yr amryfusedd diweddar ynglŷn â nodyn ar y cyfryngau cymdeithasol am ein heiddo, Eglwys St Aelrhiw,” meddai llefarydd ar ran Llety Gwyliau Abersoch.

“Mae’r postiad wedi’i ddileu ar unwaith ac mae’n ddrwg iawn gennym am unrhyw amarch y gallai hyn fod wedi’i achosi.

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi’r gymuned leol ar bob cyfle.”

Eglwys Aelrhiw

“Mynwent fel gardd”: beirniadu cwmni tros eglwys sydd wedi’i throsi’n llety gwyliau yn Llŷn

Abersoch Holiday Homes Ltd yn dweud y bydd pobol yn siŵr o ddisgyn mewn cariad â’r “cartref anghyffredin hwn” wrth hysbysebu Eglwys Aelrhiw