Mae cyfuniad o’r pandemig a Brexit wedi rhoi straen aruthrol ar nifer o fusnesau bach. Yn ddiweddar fe fu Cywain – asiantaeth y Llywodraeth ar gyfer helpu cynhyrchwyr bwyd a diod – yn cynnal seminar ar y We i’r diwydiant, gan roi sylw i bwysigrwydd iechyd meddwl, yn enwedig yn y gweithle.