Dylai’r wasg a’r cyfryngau roi rhagor o sylw i’r sefyllfa “warthus” yng Ngholombia, yn ôl newyddiadurwr o Gymru sy’n byw yn y wlad.

Mae arweinwyr cymunedau brodorol mewn ardaloedd fel Cauca yn cael eu bygwth am warchod rheolaeth eu tiriogaethau mynyddig gan gangiau a guerrillas, sydd am feddiannu mwynau a rheoli cynhyrchu cyffuriau megis mariwana a chocên.