Mae Capel Coffa Capel Celyn wedi ailagor ar ôl i waith gael ei wneud i atgyweirio’r safle.

Fe gafodd y capel ei adeiladu ar ôl boddi Tryweryn ym 1965 i goffáu pentref Capel Celyn, ac fe wnaeth llawer o’r cerrig o gapel gwreiddiol y pentref gael eu defnyddio i godi’r waliau.

Mae’r adeilad bellach wedi derbyn statws rhestredig Gradd II gan Cadw am ei arwyddocâd hanesyddol.

Fe ddechreuodd Dŵr Cymru, sy’n gyfrifol am ofalu am y capel coffa, ar y gwaith cynnal a chadw ym mis Gorffennaf 2020, ac mae’r safle wedi bod ar gau i ymwelwyr ers hynny.

Gan fod dim cyflenwad trydan na gwres, roedd y morter yn y waliau wedi dechrau dirywio ac roedd y to hefyd yn gadael dŵr i mewn.

Fe aeth Dŵr Cymru ati i wneud gwaith i alluogi’r adeilad wrthsefyll effeithiau tywydd garw, fel gosod ffenestri newydd, ail-gapio’r to a gwyngalchu’r waliau.

Gwarchod

Roedd Andrew Dixon o Dŵr Cymru yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith.

“Ychydig iawn o waith a wnaed ar y capel ers iddo gael ei adeiladu,” meddai.

“Rydym wedi gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar yr adeilad dros y blynyddoedd fel rhan o’r gwaith o redeg cronfa ddŵr Llyn Celyn ac roeddem yn awyddus i gynnal rhaglen waith ehangach, hirdymor i helpu i’w warchod.”

Agor drysau

Bydd mynediad am ddim ar ddiwrnod yr agoriad heddiw (dydd Mercher, 15 Medi), fel rhan o Ŵyl Drysau Agored Cadw eleni.

Mae’r ŵyl yn cynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr yn rhai o sefydliadau treftadaeth mwyaf arwyddocaol Cymru.